Nid peth hawdd yw penderfynu symud i mewn i gartref gofal preswyl; ond weithiau dyma’r unig ffordd i sicrhau eich diogelwch a’ch lles.
Mae cartrefi gofal preswyl yn darparu llety byw – fel arfer ystafell wely gydag ystafell ymolchi en suite – eich holl brydau bwyd a chymorth gyda gofal personol.
Ma eyna wahanol fathau o ofal preswyl felly mae’n bwysig dewis yn ofalus ac ystyried eich anghenion presennol a rhai’r dyfodol, gan gynnwys gofal nyrsio posibl.
Manteison gofal preswyl
Mae llawer o fanteision i fyw mewn cartref gofal preswyl, gan gynnwys:
- dim eisiau poeni am orchwylion cartref neu goginio
- llawer o wynebau a ffrindiau newydd
- derbyn gofal gan dimau o ofalwyr
- offer arbenigol wrth law, e.e. taclau codi, ystafelloedd cawod
- strwythur trefniadau rheolaidd gyda gweithgareddau
- bydd eich teulu’n gwybod eich bod chi’n ddiogel ac yn derbyn gofal da
Pryd i ystyried gofal preswyl
Efallai ei bod hi’n bryd i chi ystyried gofal preswyl:
- pan fydd angen mwy o ofal a chymorth arnoch nag y mae’n bosibl eu darparu’n rhesymol gartref (gan eich teulu a/neu weithwyr gofal)
- pan fydd angen cymorth arnoch chi gyda’r nos
- pan fydd eich breuder corfforol neu golli cof yn ei gwneud hi’n anniogel i chi fyw ar eich pen eich hun.
- nid oes unman arall lle gallech chi fyw yn ddiogel
Peidiwch â gadael i’ch hun gael eich gwthio i mewn i ofal preswyl os nad ydych chi’n barod amdano. Efallai bod ffyrdd eraill o’ch cefnogi, fel gofal personol, addasiadau i’ch cartref neu symud i mewn i lety â chymorth.
Trefnu gofal preswyl
Os credwch mai gofal preswyl allai fod yr opsiwn gorau i chi, cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofynnwch am asesiad o’ch anghenion.
Mae gennych chi hawl i gymorth oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol p’un a ydych chi’n bwriadu gofyn am help i dalu’ch ffioedd gofal preswyl neu beidio.
Cyn i chi symud i mewn i ofal preswyl, mae’n bwysig bod yn gwbl glir pwy sy’n talu am eich lle a faint mae’n rhaid i chi ei dalu tuag ato.
Mae cartrefi gofal preswyl yn wasanaethau a reoleiddir, sy’n golygu eu bod wedi cofrestru gan Asiantaeth Gofal Cymru (AGC) ac yn cael eu harolygu ganddyn nhw’n rheolaidd.