Efallai mai chi, eich cyngor lleol neu’r GIG fydd yn gyfrifol am dalu’ch ffioedd gofal preswyl, neu y cânt eu rhannu rhwng un neu fwy ohonoch chi.
Pwy sy’n talu ffïoedd cartrefi gofal?
Mae hyn yn dibynnu ar eich anghenion gofal a chymorth unigol a’ch amgylchiadau ariannol, gan gynnwys eich asedau cyfalaf. Mae’n cael ei sefydlu gan asesiad ariannol a gaiff ei gynnal fel rhan o’r broses cynllunio gofal. Bydd amgylchiadau pan fydd:
- yr awdurdod lleol neu’r GIG yn talu holl ffïoedd cartref gofal.
- yr awdurdod lleol a’r GIG yn cyfrannu tuag at ffïoedd cartref gofal.
- nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol awdurdod lleol oherwydd lefel eich asedau cyfalaf e.e. cynilion, buddsoddiadau, ac eiddo, ac felly chi sy’n talu holl ffïoedd cartref gofal.
- rydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol awdurdod lleol oherwydd lefel eich asedau cyfalaf ond efallai y bydd tâl yn cael ei godi arnoch yn dibynnu ar eich incwm cymwys.
Ariannu gan y cyngor lleol
Beth yw costau ‘ychwanegol’ / ffïoedd ‘atodol’?
Mae pob awdurdod lleol yn cytuno ar ffi wythnosol gyda chartrefi gofal ac ni fydd yn talu am gartref drutach oni bai bod rhesymau arbennig. Mae cyfradd y ffi wythnosol yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, a dylech allu cael yr wybodaeth yma gan eich awdurdod lleol.
Os ydych chi’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol awdurdod lleol, mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol roi dewis gwirioneddol i chi (mwy nag un opsiwn) o lety addas o fewn ei ffi wythnosol benodedig. Os nad oes unrhyw lety addas i fodloni’n llawn eich anghenion sydd wedi’u hasesu, rhaid i’r awdurdod lleol drefnu lleoliad mewn llety drutach ac addasu’r arian a rydd yn unol â hynny. Rhaid peidio â gofyn i chi, neu drydydd parti, dalu cost ychwanegol tuag at gost lle mewn cartref gofal sy’n bodloni’ch anghenion sydd wedi’u hasesu.
Os caiff llety addas ei gynnig gan yr awdurdod lleol ond mae’n well gennych gartref gofal amgen, drutach, yna bydd rhaid gwneud trefniant i ddiwallu’r gwahaniaeth mewn cost. Yr enw ar hyn yw trefniant cost ychwanegol neu ffi atodol.
Er enghraifft: Cyfraniad yr awdurdod lleol yw £600 yr wythnos, y ffi am gartref gofal yw £700 yr wythnos, y ffi atodol yw £100 yr wythnos.
Paying for a permanent care home placement in Wales (Age Cymru, Ebrill 2022) (Saesneg yn unig)
Beth yw taliadau ‘atodol’ / ‘ychwanegol’?
Efallai y penderfynwch brynu gwasanaethau a nwyddau atodol / ychwanegol sydd ar gael yn y cartref gofal, er enghraifft papur newydd dyddiol, trin gwallt, trin dwylo, neu efallai y gofynnwch am rywbeth sy’n ychwanegol ac yn bersonol i chi. Nid yw’r gwasanaethau a’r nwyddau atodol / ychwanegol hyn yn rhan o’r cynllun cymorth a gofal, ac felly nid yw ffi wythnosol y cartref gofal yn talu amdanyn nhw. Gallai’r rhain felly gael eu galw’n daliadau ‘atodol’ / ‘ychwanegol’. Dylech chi gael gwybod ymlaen llaw bod rhaid i chi dalu am y gwasanaethau hyn, faint maen nhw’n costio a sut y bydd disgwyl i chi dalu.
Hunan-arianwyr
Os anghenion gofal cymdeithasol sydd gennych chi’n bennaf ac nid ydych yn gymwys i dderbyn arian gan y cyngor lleol am fod eich incwm neu’ch cynilion yn rhy uchel neu roeddech chi’n anfodlon cael asesiad ariannol, rydych chi’n ‘hunan-ariannu’.
Fel y cyfryw, gallwch chi droi at gartref gofal preswyl yn uniongyrchol a gwneud y trefniadau ariannol eich hunan.
Os, neu pryd, y daw amser pan fydd eich cynilion yn syrthio o dan lefel benodol (£50,000 yn 2022), gallwch chi geisio i’ch cyngor lleol am gymorth ariannol o hyd.
Mae talu am ofal preswyl yn ymrwymiad hirdymor sylweddol. Mae Helpwr Arian yn rhoi tipyn o arweiniad ar y pwnc.
Gaf i wrthod cael asesiad ariannol?
Nid oes rhaid i chi gytuno i asesiad ariannol; ond os gwrthodwch un, ni fydd eich cyngor lleol yn cyfrannu tuag at eich ffioedd cartref preswyl.
Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Mae gofal iechyd y GIG bob amser yn rhad ac am ddim yn y man darparu.
Os yw’ch gofal chi’n gymysgedd o ofal nyrsio a phersonol, bydd y GIG yn talu am elfen gofal iechyd/nyrsio eich gofal yn unig, gan adael y cyngor lleol a/neu chi i dalu cost cael eich anghenion gofal cymdeithasol wedi eu diwallu.
Os oes gennych chi gyflwr iechyd cymhleth sy’n golygu bod eich angen am gymorth a gofal yn ymwneud yn bennaf â’ch iechyd, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am Ofal Iechyd Parhaus y GIG. Yn y sefyllfa hon, y GIG fydd yn talu holl gost ffioedd eich cartref nyrsio.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyhoeddiad o’r enw Beth yw Gofal Iechyd Parhaus y GIG ar gyfer Unigolion, Teuluoedd a Gofalwyr.