Yn ffodus, nid yw gofal preswyl yn cael ei ddarparu yn yr un modd i ddiwallu pob angen ac mae’r math o gartref gofal preswyl byddwch chi’n ei ystyried yn dibynnu ar eich dymuniadau, eich anghenion sydd wedi eu hasesu, eich oedran ac a oes angen gofal nyrsio arnoch chi neu beidio.
Cartrefi gofal preswyl
Mae cartrefi gofal preswyl yn darparu amgylchedd diogel gyda staff gofal wrth lawr 24 awr y dydd.
Mae’r preswylwyr yn derbyn help gydag ymolchi, gwisgo, mynd i’r toiled, bwyta ac yfed, yn dibynnu ar eu hanghenion gofal a chymorth. Mae prydau bwyd yn cael eu darparu.
Mae’ch anghenion iechyd yn cael eu bodloni gan weithwyr proffesiynol sy’n ymweld, er enghraifft, eich meddyg teulu a nyrs gymunedol.
Nid oes unrhyw ofyniad i gartrefi gofal preswyl gael nyrs gymwysedig yn yr adeilad ar bob adeg.
Mae llawer o gartrefi preswyl yn darparu’n unswydd ar gyfer pobl hŷn neu’r sawl ag anableddau dysgu, synhwyraidd neu gorfforol penodol.
Os oes gennych chi weithiwr cymdeithasol, gofynnwch iddyn nhw argymell cartref preswyl addas.
Cartrefi nyrsio
Cartref preswyl sy’n cynnig gofal nyrsio sy’n cael ei ariannu gan y GIG yn ogystal â gofal personol yw cartref nyrsio.
Os anghenion iechyd yn bennaf yw’ch anghenion chi, yna mae’n debyg bod angen i chi fynd i mewn i gartref nyrsio yn hytrach na chartref gofal preswyl arferol.
Rhaid bod gan gartref nyrsio nyrs gymwys ar ddyletswydd ar bob adeg. Fel arfer mae cymhareb uwch o staff i breswylwyr i adlewyrchu anghenion uwch y preswylwyr.
Cartrefi gofal EMI (Henoed Eiddil eu Meddwl)
Mae cartrefi i’r henoed eiddil eu meddwl (EMI) yn gofalu am bobl â dementia nad ydynt yn gallu derbyn gofal yn eu cartref ragor.
Mae gwelyau EMI ar gael hefyd mewn lleoliadau cartref gofal preswyl a chartrefi nyrsio.
Mae gan Gymdeithas Alzheimer’s ffeithlen (Saesneg yn unig) ddefnyddiol i’ch helpu i ddewis cartref gofal i rywun sydd â dementia.
Mae cartrefi gofal preswyl yn wasanaethau a reoleiddir, sy’n golygu eu bod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac yn cael eu haroygu ganddyn nhw’n rheolaidd.