Mae mwy o blant nag erioed yn teithio mewn ceir, nad yw’n rhoi llawer o gyfle iddyn nhw ddatblygu eu synnwyr o ddiogelwch ar y ffyrdd. Cyn i chi ymddiried yn eich plentyn i groesi ffordd brysur yn ddiogel, mae’n hanfodol dysgu rhai sgiliau sylfaenol diogelwch ar y ffyrdd iddyn nhw.
Beth am annog eich plentyn i ‘ymarfer’ croesi’r ffordd gyda chi cyn iddyn nhw fynd allan ar eu pen eu hun. Gadewch iddyn nhw benderfynu ble a phryd mae’n ddiogel croesi a gofynnwch iddyn nhw esbonio sut maen nhw’n dod i’w penderfyniad.
Diogelwch sylfaenol ar y ffyrdd
Mae rhai cynghorion sylfaenol diogelwch ar y ffyrdd y dylai pob plentyn eu gwybod sef:
- rhowch eich ffôn yn eich poced neu fag wrth groesi'r ffordd
- gwisgo rhywbeth gweladwy (dillad llachar neu stribyn adlewyrchol)
- stopio cyn ceisio croesi’r ffordd
- sefyll gyda bysedd eich traed tu ôl i ymyl y palmant (byth ar ymyl y palmant)
- edrych i’r dde yn gyntaf, yna i’r chwith ac i’r dde eto, gan groesi dim ond pan fo’n ddiogel gwneud hynny (a chan gofio bod amodau traffig yn gallu newid yn gyflym)
- cadw’ch clustiau ar agor am draffig sy’n dod tuag atoch chi (nid dyma’r amser i fod yn gwrando ar gerddoriaeth)
- croesi’r ffordd mewn llinell syth – drwy wneud hyn byddwch chi’n cyrraedd yr ochr arall yn yr amser byrraf bosibl
- cerdded bob amser, peidio byth â rhedeg a daliwch ati i edrych i’r dde a’r chwith nes i chi gyrraedd yr ochr arall
Dod o hyd i le diogel i groesi
Mae gormod o ddamweiniau’n digwydd yn syml am nad yw’r gyrrwr yn gweld y plentyn nes ei bod yn rhy hwyr.
Mae rhai mannau’n fwy diogel i groesi nag eraill. Pethau cyffredin i’w hosgoi yw:
- sefyll rhwng ceir sydd wedi eu parcio (lle mae’n bosib na fydd gyrwyr yn eich gweld chi)
- croesi ar droad, gornel neu unrhyw gyffordd arall
- sefyll wrth ymyl rhwystr, e.e. gwaith ar y ffordd
Y peth pwysig yw dod o hyd i rywle lle bydd gan y plentyn olwg ddirwystr o’r traffig sy’n dod o bob cyfeiriad. Os oes rhwystr i’w golwg, dylen nhw chwilio am rywle mwy diogel i groesi.
Pan nad oes unrhyw le diogel i groesi
Os nad oes gan eich plentyn unrhyw opsiwn ond i groesi ffordd brysur lle mae ceir wedi eu parcio ac mae’r gwelededd yn wael, mae’n gallu lleihau’r perygl i’w ddiogelwch drwy gymryd rhagofalon ychwanegol. Mae cyffyrdd yn gallu bod yn arbennig o beryglus i blant am fod traffig yn dod o sawl cyfeiriad.
Wrth groesi rhwng ceir sydd wedi eu parcio
- chwiliwch am fwlch bach (yn ddelfrydol un sy’n rhy fach i gar geisio parcio ynddo)
- gwnewch yn siŵr nad yw’r ceir i’r ddwy ochr yn symud drwy gadw llygad ar y goleuadau, y gyrrwr, y bibell wacáu (am fygdarthau) a gwrando am yr injan
- symudwch allan o rhwng y ceir yn araf, gan wneud yn siŵr eich bod yn edrych tua’r dde yn gyntaf am mai’r ceir yma fydd yn mynd heibio’n agosach atoch chi
- cymerwch gam MAWR yn ôl os oes rhywbeth yn dod ac arhoswch iddo fynd heibio cyn gwirio’r ffordd eto
- daliwch ati i edrych i’r dde a’r chwith wrth i chi groesi’r ffordd
Wrth groesi ger cyffordd
- dewiswch rywle i groesi lle gallwch chi weld y traffig sy’n teithio ar hyd bob ffordd
- edrychwch dros eich ysgwydd dde a, chan symud tua’r chwith, gwiriwch bob un o’r ffyrdd mewn symudiad cylchol nes i chi gwblhau cylch llawn o’r holl ffyrdd sy’n dod i mewn i’r gyffordd
- os oes traffig yn dod allan o unrhyw un o’r ffyrdd, arhoswch iddo fynd heibio a dechreuwch eich gwiriad cylchol eto
Llwybrau diogel i’r ysgol
Mae llawer o ysgolion erbyn hyn yn annog plant i gerdded a seiclo i’r ysgol. Dysgwch a oes llwybr diogel sefydledig i gadw plant i ffwrdd o ffyrdd prysur yn eich ardal chi.