Mae beicio’n ffordd ardderchog i blant fynd o gwmpas, a chadw’n heini ac yn iach. Yn wir, mae llawer o ysgolion erbyn hyn yn annog ac yn cefnogi beicio fel rhan o deithio llesol yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.
Mae argaeledd (a chost) cyrsiau beicio diogel yn amrywio ledled y wlad; fodd bynnag, mae’n werth darganfod a oes rhai ar gael yn eich ardal.
Hyd yn oed os na fydd eich plentyn yn beicio ar ffyrdd prysur eto, mae’n dal i fod yn bwysig dysgu ychydig o gynghorion beicio’n ddiogel iddyn nhw.
Hanfodion beicio
Mae yna rai gwiriadau diogelwch sylfaenol dylech chi eu cyflawni cyn gadael i’ch plentyn seiclo ar unrhyw feic:
- dylai maint y beic fod yn addas, h.y. dylen nhw allu cyffwrdd â’r llawr gydag un droed pan fyddan nhw’n eistedd ar y cyfrwy
- gwiriwch fod eich plentyn yn gallu cyrraedd y breciau a’u bod nhw’n gweithio (gwthiwch y beic yn ei flaen i wirio’r breciau blaen ac am yn ôl i wirio’r breciau ôl)
- gwiriwch fod digon o aer yn y teiars ac nad ydyn nhw wedi treulio
- gwnewch yn siŵr fod y cyrn yn gweithio’n briodol (ac nad ydyn nhw’n symud mewn ffyrdd na ddylen nhw)
- gwiriwch nad yw’r sedd yn siglo
Goleuadau
Os yw’ch plentyn chi yn debygol o fod yn seiclo eu beic rhwng y cyfnos a’r wawr, dylai’r canlynol fod wedi eu ffitio ar eu beic:
- golau blaen gwyn
- golau ôl coch
- adlewyrchydd ôl coch
- adlewyrchyddion pedal
Dillad a bagiau
Bydd eich plentyn yn fwy gweladwy i gerbydau eraill a cherddwyr os ydyn nhw’n gwisgo dillad Hi Viz, adlewyrchol neu lachar; fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn bosib. Fel rheol gyffredinol, gwnewch yn siŵr fod eich plentyn:
- yn gwisgo dillad sy’n addas am y tywydd
- yn osgoi dillad llac a allai gael eu dal yn rhannau symudol y beic
- yn osgoi hongian pethau ar y cyrn gan fod hynny’n gallu effeithio ar y llywio
- yn gwisgo sach gefn fel bod eu dwylo’n rhydd
Helmed
Mae helmedau beic yn gallu achub bywydau a lleihau risg anaf difrifol; ond mae’n bwysig eu bod yn ffitio’n briodol ac yn cael eu gwisgo’n gywir. Dilynwch y cynghorion hyn i sicrhau bod eich plentyn mor ddiogel â phosib:
- mesurwch gylchedd pen eich plentyn mymryn uwchlaw eu haeliau
- parwch faint eu pen i’r maint sydd ar yr helmed
- ceisiwch symud yr helmed o gwmpas ar eu pen – ni ddylai symud llawer
- rhaid i’r strapiau fynd o gwmpas eu clustiau, nid drostyn nhw
- dylai’r bwcl fod o dan eu gên, nid ar y genogl
- addaswch yr helmed os oes angen, mae’n bosib y bydd angen i chi ddefnyddio padiau addasu
- dylen nhw wisgo’r helmed yn wastad, nid ar ogwydd – ni ddylai talcen eich plentyn fod wedi’i ddinoethi
- gwiriwch fod eich plentyn yn gallu gweld yn glir
- os nad yw’r helmed yn ffitio’n glyd, ceisiwch helmed arall
Defnyddiwch helmed newydd bob tro os bydd eich plentyn wedi bod mewn gwrthdrawiad neu os bydd yr helmed wedi ei ollwng. Hyd yn oed os na fydd yr helmed wedi’i ddifrodi yn ôl pob golwg, bydd ergyd caled yn ei wanhau ac ni fydd yn cynnig amddiffyniad wedyn.
Peidiwch byth â rhoi sticeri neu baent ar yr helmed, bydd y rhain yn gwanhau’r strwythur.
Glanhewch helmed gyda chlwt meddwl a dŵr.