Y peth pwysicaf mae’n rhaid i unrhyw riant ei wneud yw dysgu i’w blentyn sut i aros yn ddiogel pan na fyddwch chi o gwmpas i’w hamddiffyn.
Boed cymryd camau syml i osgoi damweiniau yn y cartref, neu fod yn ymwybodol o beryglon posibl pan fyddant allan gyda’u ffrindiau neu o gwmpas pobl nad ydynt yn eu hadnabod yn dda, mae’n hanfodol bod plant o bob oedran yn gallu adnabod sefyllfa beryglus a gwybod beth i’w wneud.
Bob wythnos, caiff plant eu hanafu, eu hanffurfio, eu hanablu a’u lladd mewn damweiniau difrifol yn y cartref, ar y ffyrdd ac mewn mannau eraill yn eu cymunedau, e.e. safleoedd adeiladu, chwareli ac afonydd.
Er ei bod yn amhosibl atal pob mân anhap domestig, gallwch chi amddiffyn eich plentyn rhag damwain ddifrifol drwy wneud yn siŵr ei fod yn deall y rheolau diogelwch yn eich cartref - ac yn gwybod beth caiff ei wneud a beth na chaiff ei wneud ar oedrannau penodol. Er enghraifft, dylai plant bach gael eu gwahardd rhag chwarae gyda matsis neu ger tanau agored, a dylent gael eu cyfarwyddo i gadw draw o ffenestri sydd ar agor a phyllau yn yr ardd.
Mae’n bwysig dysgu i blant am ddiogelwch ar y ffordd hefyd, hyd yn oed os byddant yn teithio mewn car gan amlaf. Ymarferwch groesi ffyrdd gyda nhw a gadewch iddyn nhw benderfynu ble a phryd mae’n ddiogel croesi. Tu fewn i’r car, afraid dweud y dylech chi bob amser ddefnyddio’r seddi plant priodol a gwregysau sedd am eu maint a’u hoedran.
Mae beicio’n boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc ac mae’n ffordd ardderchog iddyn nhw deithio pellterau byr yn annibynnol. Hyd yn oed os na fydd eich plentyn yn beicio ar ffyrdd prysur eto, mae’n bwysig iddo wisgo helmed bob tro ac iddo ddysgu rhai cynghorion beicio diogel sylfaenol.
Wrth i blant gael mwy o ryddid yn raddol, mae’n debygol y byddan nhw o bryd i’w gilydd yn darganfod eu hun mewn sefyllfa lle maent yn ansicr am oedolyn. Er nad yw’r mwyafrif o ddieithriaid yn peri bygythiad - a byddan nhw hyd yn oed yn dod i helpu’ch plentyn petai angen - mae’n syniad da helpu’ch plentyn i gydnabod a chynllunio am sefyllfaoedd ‘anodd’, e.e. dieithryn sy’n cynnig lifft iddyn nhw neu’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghysurus mewn ffordd arall.
Weithiau y person ifanc fydd yn gosod ei hun mewn perygl drwy chwilio am brofiadau newydd sydd yn y bôn yn rhai mentrus. Er bod cymryd risg yn beth normal i bobl ifanc, mae’n naturiol teimlo’n orwyllt os yw’ch plentyn yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau anghyfreithlon, gyrru peryglus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os gallwch chi ymatal rhag eu darlithio, bydd y mwyafrif o bobl ifanc yn gwrando ar reswm yn y pen draw; ond, yn achlysurol iawn, mae eu hymddygiad cymryd risg yn arwain at ganlyniadau difrifol, er enghraifft, dioddef trosedd neu’n cael eu cyhuddo o drosedd.