skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r cyfryngau yn llawn straeon am gymunedau lleol sydd wedi cael eu mallu gan ymddygiad gwrthgymdeithasol – pobl y mae eu bywydau’n ddiflas o ganlyniad i fandaliaeth, ymddygiad bygythiol a chymdogion sy’n niwsans.

Ond beth os eich plentyn chi sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol? Beth os eich mab neu ferch chi yn eu harddegau sy’n brawychu’r gymdogaeth?

Yn gyntaf, mae’n bwysig peidio â gor-ymateb. Mae yna lawer o resymau pam y gallai person ifanc ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddaupwysau gan eu cymheiriaid neu fwlio.

Hefyd gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn arwydd o broblem iechyd meddwl.

Mae rhai mathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn droseddau a bydd troseddwyr honedig yn cael eu trin yn briodol, yn dibynnu ar eu hoedran.

Disodlodd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 Orchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBOs) ac amrediad o orchmynion eraill gyda dulliau newydd o drechu ymddygiad gwrthgymdeithasol:

  • Gwaharddeb sifil
  • Hysbysiad Gwarchod y Gymuned (CPN)
  • Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO)
  • Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO).

Gwaharddeb sifil

Mae’n rhaid i waharddeb sifil gael ei ganiatáu gan lys (neu lys ieuenctid). Mae’n gwahardd ymddygiad penodol ac yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i’r troseddwr ddelio ag achosion gwaelodol ei ymddygiad gwrthgymdeithasol, er enghraifft, cael triniaeth am ei gamddefnydd cyffuriau neu alcohol.

Os yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynnwys bygythiadau trais ac ym marn y llys mae risg sylweddol o niwed i’r person arall/personau eraill, mae’n gallu atodi pŵer arestio i’r waharddeb.

Gall torri gwaharddeb sifil arwain at hyd at ddwy flynedd o garchar neu ddirwy (i bobl dros 18 oed), neu gyrffyw, gofyniad gweithgaredd neu, mewn achosion difrifol, cadw (i bobl dan 18).

Hysbysiad Gwarchod y Gymuned (CPN)

Mae Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn delio â’r sawl sydd heb fawr o ystyriaeth o sut mae eu hymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar ansawdd bywyd cymuned, e.e. dympio sbwriel yn y stryd, gadael i gŵn ddianc o eiddo.

Caiff yr unigolyn (y mae’n rhaid iddo fod dros 16 oed), busnes neu sefydliad sy’n gyfrifol am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol rybudd ysgrifenedig am eu hymddygiad annerbyniol a chaniateir amser a chyfle iddynt gymryd camau adferol.

Gall yr Hysbysiadau gael eu cyhoeddi gan swyddogion yr heddlu, swyddogion cyngor dynodedig a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Gall methu â chydymffurfio arwain at gosb benodedig o hyd at £100; fodd bynnag, os bydd achos llys yn cychwyn, gallech wynebu dirwy o hyd at £2,500.

Gorchmynion Ymddygiad Troseddol (CBOs)

Dyma’r gorchmynion sy’n delio â’r troseddwyr mwyaf difrifol a pharhaus, sy’n ymgymryd â gweithgareddau troseddol yn ogystal ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dim ond llys a all eu cyhoeddi, pan fydd yn fodlon, tu hwnt i amheuaeth resymol:

  • bod y troseddwr wedi ymgymryd ag ymddygiad a achosodd - neu a oedd yn debygol o achosi - aflonyddu, ofn neu ofid i unrhyw berson, ac
  • y bydd y gorchymyn yn annog y troseddwr i atal yr ymddygiad hwnnw yn y dyfodol.

Bydd gorchmynion ar gyfer pobl o dan 18 oed yn para am 1–2 flynedd ac yn cael eu hadolygu bob 12 mis. Bydd y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid lleol yn rhan o hyn. Mae methu â chydymffurfio â CBO yn drosedd ac yn gallu arwain at garchar a/neu ddirwy.

Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPOs)

Cynghorau sy’n arwain o ran y Gorchmynion hyn, gan dargedu ymddygiad ‘niwsans’ a nodwyd mewn lleoliad penodol, e.e. yfed alcohol yn gyhoeddus, ymgynnull mewn grwpiau ar y stryd.

Gall gorchmynion fod yn hyblyg, er enghraifft, gallant fod ar waith o dan amgylchiadau penodol yn unig a gallant gynnwys rhai eithriadau penodol. Mae’n drosedd torri PSPO heb esgus rhesymol a bydd dirwyon penodedig.

Gall PSPO barhau hyd at dair blynedd. Wedi hynny mae’n rhaid iddo gael ei adolygu.

Cosbi rhieni

Os yw’ch plentyn mewn helynt gyda’r heddlu dro ar ôl tro a chithau heb gymryd camau rhesymol i’w atal, gallech chi eich hun fod yn destun Rhaglen Rhianta, Contract Rhianta neu Orchymyn Rhianta (Saesneg yn unig).

Hawliau pobl ifanc

Mae gan blant a phobl ifanc rai hawliau cyfreithiol penodol (Saesneg yn unig), gan gynnwys pan fyddant yng ngorsaf yr heddlu neu wedi cael eu harestio.

Diweddariad diwethaf: 30/01/2023