skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae rhai pobl sy’n dymuno niweidio plant a phobl ifanc yn rhywiol yn aml yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac aps i fynd yn agos atyn nhw ac ennill eu hymddiriedaeth.

Proses sy’n cael ei chynllunio’n ofalus yw magu perthynas amhriodol pan fydd y cyflawnwr yn bwriadu rheoli’r plentyn a pherson ifanc i sicrhau eu bod yn gwneud yn union beth mae’r cyflawnwr ei eisiau.

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n bwysig eich bod chi’n deall sut mae ‘magu perthynas amhriodol’ fel hyn yn digwydd er mwyn i chi amddiffyn eich plant.

Beth ydy magu perthynas amhriodol?

Mae magu perthynas amhriodol yn weithred fwriadol sy’n cael ei gwneud gyda’r nod o gyfeillio a sefydlu cysylltiad emosiynol â phlentyn. Mae’r cyflawnwr yn dymuno lleihau ataliad y plentyn er mwyn eu cam-drin nhw’n rhywiol.

Mae magu perthynas amhriodol yn gallu digwydd ar-lein neu yn y byd go iawn, gan ddieithryn neu gan rywun maen nhw’n ei adnabod, e.e. aelod o’r teulu, ffrind neu hyd yn oed gweithiwr proffesiynol. Mae’r rhyngrwyd wedi ei gwneud yn llawer haws i bobl fagu perthynas amhriodol â phlant o bell.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n drosedd trefnu cyfarfod â phlentyn, drosoch chi’ch hun neu rywun arall, gyda’r bwriad o gynnal gweithgareddau rhywiol.

Sut mae magu perthynas amhriodol ar-lein yn digwydd?

Yn anffodus, mae’n hawdd iawn i rywun sy’n magu perthynas amhriodol ddod o hyd i’w fictimau ar-lein. Yn aml maen nhw’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol, aps neu ystafelloedd sgwrsio sy’n denu defnyddwyr ifanc.

Weithiau maen nhw’n cymryd arnyn nhw eu bod yn iau nag ydyn nhw, ond nid bob tro. Yn aml maen nhw’n defnyddio llun proffil sy’n rhywun arall felly maen nhw’n gallu cuddio pwy ydyn nhw mewn gwirionedd, eu hoedran a’u rhyw.

Yn aml bydd y cyflawnwyr yn anfon allan llu o geisiadau i fod yn ffrind ar hap i blant yn y gobaith y byddan nhw’n ennill ‘ffrindiau’ maen nhw wedyn yn gallu dechrau magu perthynas amhriodol â nhw. Mewn ystafelloedd sgwrsio, bydd rhywun sydd am fagu perthynas amhriodol yn sgwrsio â phlentyn yn agored i ddechrau, ond cyn bo hir bydd yn gofyn i’r sgwrsio fynd ‘all-lein’ am sgwrs rhwng dim ond y ddau ohonyn nhw.

Os bydd y cyflawnwr yn cael gafael ar luniau o natur rywiol mae’r person ifanc wedi eu postio ar-lein, bydd efallai’n troi at flacmel, gan fygwth rhannu’r delweddau â theulu, ffrindiau neu hyd yn oed ysgol y person ifanc.

Mae’n fwy na thebyg bod unrhyw safle neu ystafell sgwrsio sy’n cael ei defnyddio gan blant a phobl ifanc yn debygol o ddenu pobl sydd am fagu perthynas amhriodol hefyd. Ond mae’n bwysig osgoi panig, gan ei bod hi’n bwysicach eich bod chi a’ch plentyn yn ymwybodol o risgiau ar-lein magu perthynas amhriodol ac yn gwybod beth i’w wneud os bydd gennych chi unrhyw bryderon.

Helpu’ch plentyn i ddysgu sut i aros yn ddiogel ar-lein

Mae llawer o ffyrdd i chi allu helpu’ch plentyn i aros yn ddiogel ar-lein.

  • Sicrhewch eu bod nhw’n ymwybodol o risgiau pobl sydd â diddordeb rhywiol mewn plant ar-lein.
  • Atgoffwch nhw i fod yn ymwybodol nad yw rhai pobl ar-lein pwy maen nhw’n dweud eu bod nhw.
  • Dwedwch wrthyn nhw i beidio â rhannu gormod o wybodaeth â phobl ar-lein, ac i fod yn ofalus am faint o fanylion personol sydd i’w gweld yn eu proffiliau ar-lein.
  • Gadwch i’ch plentyn wybod ei fod yn gallu siarad â chi os oes rhywbeth sy’n ei boeni ac y byddwch chi bob amser yn gefnogol.
  • Atgoffwch eich plentyn, os bydd pethau’n mynd o chwith, nid arnyn nhw mae’r bai byth.

Yn pryderu am rywun mae’ch plentyn mewn cysylltiad â nhw?

Os ydych chi’n pryderu bod eich plentyn efallai’n destun magu perthynas amhriodol neu wedi bod yn fictim camdriniaeth ar-lein, dylech chi geisio cymorth.

Mwy o wybodaeth

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn methu deall eu bod wedi bod yn destun magu perthynas amhriodol, neu mai camdriniaeth yw’r hyn sydd wedi digwydd. Gallwch chi ddod o hyd i adnoddau priodol i oedran plant a chyngor pellach i’ch helpu i ddechrau a pharhau sgyrsiau â’ch plentyn er mwyn hybu diogelwch ar-lein.

Ymhlith yr elusennau plant cenedlaethol sy’n cynnig cyngor am fagu perthynas amhriodol ar-lein â phlant a phobl ifanc mae: Parents Protect, Childline, NSPCC a ThinkUKnow (Saesneg yn unig).

Diweddariad diwethaf: 16/12/2022