Un o’r pethau gwaethaf y gall y mwyafrif o rieni ei ddychmygu yw i’w plentyn gael ei arestio a’i gyhuddo o weithred droseddol.
Nid oes ots beth yw oedran eich plentyn, nid oes neb eisiau derbyn yr alwad ffôn honno oddi wrth yr heddlu yn dweud bod eu plentyn yn y ddalfa ac yn gofyn iddynt fynd i orsaf yr heddlu ar unwaith.
Yn gyntaf, ceisiwch aros yn dawel. Nid yw cael ei arestio yn golygu ei bod yn anochel bod eich plentyn wedi cychwyn bywyd o droseddu ... neu hyd yn oed ei fod wedi cyflawni trosedd yn y lle cyntaf. Efallai ei fod wedi cael ei gyhuddo ar gam neu dim ond wedi bod yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir.
Mae’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘secstio’ yn dod yn broblem aruthrol ac yn un sy’n gallu peri llawer iawn o drafferth i berson ifanc.
Cyfrifoldeb troseddol
Yng Nghymru (a Lloegr) yr oedran cyfrifoldeb troseddol yw deg. Mae hyn yn golygu nad oes modd cyhuddo plentyn iau na hyn o drosedd a mynd ag ef i’r llys.
Mae plant rhwng 10 a 17 oed sy’n cyflawni troseddau yn cael eu trin fel troseddwyr ifanc ac mae unrhyw achos troseddol sy’n codi yn cael ei wrando mewn llys ieuenctid. Mae amrediad o ddedfrydau (Saesneg yn unig) y gall y llys eu rhoi yn dibynnu ar y drosedd o ddirwy i gadw hirdymor.
O 18 oed ymlaen, mae’r gyfraith yn trin pobl ifanc fel oedolion.
Arestio a chyfweld
Pan gaiff person ifanc ei arestio, fel arfer caiff ei gymryd i orsaf yr heddlu i’w holi. Mae’n rhaid i’r heddlu ddilyn rheolau penodedig a bydd swyddog y ddalfa yn esbonio hawliau cyfreithiol y person ifanc iddo.
Byddant bob amser yn ceisio cysylltu â rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr, yn rhannol am na ddylai rhywun o dan 18 oed gael ei gyfweld neu ei chwilio heb ‘oedolyn priodol’ yn bresennol – gallai hyn fod yn rhiant, perthynas, ffrind, gweithiwr cymdeithasol neu athro.
Cofiwch fod gan unrhyw un sy’n cael ei arestio – gan gynnwys plentyn neu berson ifanc – hawl i gyngor oddi wrth gyfreithiwr yn rhad ac am ddim. Os yw’r person ifanc wedi cael ei gyhuddo o drosedd ddifrifol, ni ddylai ateb cwestiynau nes bod y cyfreithiwr wedi cyrraedd.
Ar ôl yr arestiad
Gall yr heddlu eich cadw am hyd at 24 awr cyn bod rhaid iddynt eich cyhuddo o drosedd neu eich rhyddhau. Mae’n rhaid iddynt wneud cais i gadw rhywun am hyd at 36 awr, neu 96 awr os ydynt yn amau bod yr unigolyn wedi cyflawni trosedd ddifrifol, e.e. llofruddiaeth. Gall yr heddlu gadw unigolyn heb ei gyhuddo am hyd at 14 diwrnod os caiff ei arestio o dan y Ddeddf Terfysgaeth.
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yn esbonio beth ddylai ddigwydd i berson ifanc mewn gorsaf heddlu a beth yw ei hawliau.
Beth sy’n digwydd nesaf
Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd ac a yw’r person ifanc yn ei chyfaddef, mae gan yr heddlu ystod o opsiynau:
- dim cyhuddiad pellach
- datrys yn y gymuned
- rhybudd ieuenctid
- rhybudd ieuenctid amodol
- cyhuddo'r person ifanc o drosedd
Cael eich rhybuddio
Os bydd gan yr heddlu ddigon o dystiolaeth i brofi bod y person ifanc wedi cyflawni’r drosedd, byddant naill ai yn ei gyhuddo neu’n rhoi rhybuddiad iddo (os yw dros 18 oed) neu rybuddiad ieuenctid (i’r rhai sy’n 10 - 17 oed).
Os bydd rybuddiad ieuenctid wedi ei roi, mae gan yr heddlu ddyletswydd gyfreithiol i hysbysu’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid (Saesneg yn unig).
Cael eich cyhuddo
Gwasanaeth Erlyn y Goron – nid yr heddlu – sy’n penderfynu a ddylai’r achos fynd i’r llys neu beidio.
Mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd ac weithiau gall y person ifanc gael ei gadw yn y ddalfa tan y treial.
Gorchmynion ar rieni
Os yw’r plentyn neu’r person ifanc o dan 16 oed, yna mae gan y llys ddyletswydd i osod gorchymyn rhwymo ar y rhieni neu osod gorchymyn rhianta, os byddai hynny’n ddymunol er mwyn atal troseddau pellach rhag cael eu cyflawni. Mae gan y llys bŵer dewisol i wneud y gorchmynion hyn pan fydd y person ifanc yn 16 neu’n 17 oed.
Mynychu llys
Mae system farnwrol y Deyrnas Unedig yn gweithredu drwy gyfrwng tri math o lys:
- Ynadon
- Y Goron
- Llys Ieuenctid
Mae Llys Ieuenctid yn fath arbennig o lys ynadon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd na’r cyfryngau (er y gall dioddefwyr wneud cais i fod yn bresennol). Fel arfer bydd person ifanc sydd rhwng 10 a 17 oed yn cael ei farnu yn y Llys Ieuenctid, oni bai bod y drosedd yn hynod o ddifrifol, e.e. llofruddiaeth, troseddau arfau tanio.
Nid yw plant dan 10 yn cael eu cymryd i lys, ond mae’n bosibl y byddant yn destun cyrffyw plant neu orchymyn diogelwch, neu’n cael eu cymryd i mewn i ofal yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd a’r sefyllfa deuluol.
Os bydd y plentyn o dan 16, mae gofyniad statudol i rieni/gwarcheidwaid fod yn bresennol yn ystod pob cam achos, oni bai bod y llys yn fodlon y byddai hyn yn afresymol yng ngoleuni amgylchiadau’r achos.
Cosb a dedfrydau o garchar
Mae’n bosibl y rhoddir gorchymyn atgyfeirio neu orchymyn gwasanaeth cymunedol i bobl dan 17 oed sydd yn y llys am y tro cyntaf ac sy’n pledio’n euog.
Caiff pobl 18 i 25 oed eu trin fel oedolion, ond nid ydynt fel arfer yn cael eu hanfon i garchardai oedolion.
Y brif ddedfryd o garchar yw gorchymyn cadw a hyfforddi (DTO) (Saesneg yn unig) sy’n parhau rhwng pedwar mis a dwy flynedd. Pan gaiff ei ryddhau, bydd y person ifanc yn cael ei oruchwylio yn y gymuned gan swyddog cyfiawnder ieuenctid (Saesneg yn unig).
Am fwy o wybodaeth am eu hawliau tra byddant yn y ddalfa a beth i’w ddisgwyl, ewch i gov.uk (Saesneg yn unig).
Mwy o wybodaeth
Ewch i gov.uk (Saesneg yn unig) am fwy o wybodaeth am bobl ifanc a’r gyfraith.
Mae’r Ganolfan Gyfreithiol Plant yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr ar sut mae’r gyfraith yn effeithio ar blant a phobl ifanc.
I weld canllawiau ar ddedfrydu plant a phobl ifanc ewch i’r Cyngor Dedfrydu (Saesneg yn unig).
Mae Lawstuff (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth gyfreithiol hawdd ei deall ar gyfer pobl ifanc.