Bob blwyddyn, mae miloedd o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dod yn ddioddefwyr trosedd neu’n gweld troseddau yn erbyn eu teulu a’u ffrindiau.
Erbyn hyn mae ofn trosedd yn rhan wirioneddol o dyfu i fyny i lawer o bobl ifanc, ac mae’r ofn hwn yn cael effaith negyddol ar eu llesiant.
Yn ôl The Good Childhood Report 2017 (Saesneg yn unig) roedd 1 o bob 3 merch yn ofni cael ei dilyn gan ddieithriaid ac roedd 1 o bob 4 bachgen yn ofni dioddef ymosodiad. Mae mwy na dwy filiwn o blant yng Nghymru a Lloegr yn byw mewn ofn trosedd yn eu cymdogaeth leol.
Mae llawer o bobl ifanc yn byw mewn aelwydydd lle maent yn gweld ymddygiad troseddol yn rheolaidd, e.e. delio mewn cyffuriau, trais domestig a/neu gamdriniaeth rywiol. Yn anffodus, mae byw mewn aelwyd lle mae yna gamdriniaeth yn eu gosod mewn risg uwch o ddioddef trosedd eu hunain.
Mae cymryd rhan mewn ymddygiad peryglus, neu gymryd rhan mewn cymryd cyffuriau neu yfed yn rhy ifanc dim ond yn cynyddu risg person ifanc o ddioddef trosedd.
Troseddau sy’n effeithio ar bobl ifanc
Gall plant a phobl ifanc fod yn ddioddefwyr llawer o fathau o drosedd, gan gynnwys;
Y gyfraith wrth-wahaniaethu
Mae’n rhaid i bob ysgol yng Nghymru ddilyn y gyfraith wrth-wahaniaethu (Saesneg yn unig). Mae hyn yn golygu bod rhaid i staff gymryd camau i atal gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio o fewn yr ysgol.
Pan fydd plentyn yn ymddiried ynddoch chi
Yn aml, y tro cyntaf y byddwch yn ymwybodol bod eich plentyn wedi dioddef trosedd yw pan fydd yn ymddiried ynddoch chi neu oedolyn arall. Yn dibynnu ar oedran y plentyn, mae’n bosibl na fydd hyd yn oed yn sylweddoli bod y gweithgarwch mae’n dweud wrthych amdano yn droseddol, e.e. rhywun yn cyffwrdd ag ef mewn modd rhywiol.
Ni waeth faint o sioc ydyw i chi, mae’n bwysig eich bod yn ei gymryd o ddifrif, ac yn gwrando ar beth sydd ganddo i’w ddweud. Ar ôl gwrando ar ei stori a gofyn cwestiynau, os credwch fod trosedd wedi digwydd, yna mae’n rhaid i chi ei adrodd. Ffoniwch yr heddlu ar 101.
Os bydd plentyn yn dweud wrthych ei fod wedi cael ei gam-drin mewn rhyw fodd, gallwch gysylltu â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Mynd i’r llys
Os bydd yr heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu bod digon o dystiolaeth i erlyn, bydd yr achos yn mynd i’r llys.
Mae Cyngor ar Bopeth yn esbonio sut profiad ydyw i berson ifanc dan 18 oed fod yn dyst.
Cymorth i ddioddefwyr/tystion ifanc
Mae You & Co (Saesneg yn unig) yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi bod yn dyst i drosedd neu wedi dioddef trosedd i ymdopi ag effeithiau’r drosedd, ac i fagu eu cydnerthedd er mwyn osgoi bod yn ddioddefwr eto.
Caiff pobl ifanc eu cefnogi i:
- deimlo’n fwy diogel ac yn llai ofnus
- bod yn llai tebygol o gael eu fictimeiddio yn y dyfodol
- bod yn llai tebygol o ymgymryd ag ymddygiad cymryd risg
- symud ymlaen o’r profiad
Mae Victim Support (Saesneg yn unig) hefyd yn cefnogi rhieni a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dioddefwyr/tystion ifanc troseddau.