Nid yw camddefnyddio sylweddau yn effeithio dim ond ar y person sy’n camddefnyddio alcohol, cyffuriau neu sylweddau eraill sy’n newid hwyliau, ond ar bawb o’u hamgylch hefyd, gan gynnwys eu plant.
Cydnabyddir yn eang bod camddefnydd sylweddau gan riant neu ofalwr yn un o’r ffactorau sy’n gosod plant mewn perygl o niwed.
Yn ôl yr NSPCC ‘Y risg pennaf sy’n wynebu plant yw bod rhieni, pan fyddant dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol, yn methu â chadw eu plentyn yn ddiogel’.
Mae bywyd mewn cartref lle mae un neu’r ddau riant yn camddefnyddio sylweddau yn gallu bod yn annarogan ac yn anhrefnus, gyda thrais domestig, diweithdra a phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebygol.
Gall plant gael eu gadael mewn dryswch ac ofn o ganlyniad i ymddygiad anwadal a hwyliau ansad eu rhieni. Mewn rhai aelwydydd, gall fod cyfnodau tawel pan fydd bywyd bron yn normal, ond gall hynny beri llawn cymaint o ddryswch.
Yr effeithiau ar blant
Mae plant i bobl alcoholig a defnyddwyr cyffuriau mewn perygl uwch o ddioddef problemau emosiynol, corfforol ac iechyd, gan gynnwys straen a phryder, anhwylderau bwyta a theimladau hunanladdol.
Unigedd
Efallai y bydd plant iau yn colli cyfleoedd am ryngweithio’n gymdeithasol. Yn aml bydd plant oedran ysgol yn teimlo cywilydd am eu sefyllfa gartref. Os oes ganddynt ffrindiau, mae’n bosibl y byddant yn osgoi mynd â nhw adref, ac yn dewis colli partïau a gweithgareddau ôl-ysgol yn hytrach na mentro darganfod y sefyllfa.
Ysgol
Efallai y bydd yn anodd i blant ganolbwyntio ar waith ysgol oherwydd beth sy’n digwydd gartref (a’r diffyg cwsg). Efallai y byddant yn cael anhawster wrth gadw i fyny, yn colli ysgol heb unrhyw fai arnynt eu hunain, neu’n camymddwyn. Mae’n bosibl y bydd eraill yn gafael yn yr ysgol a ffrindiau i wneud yn iawn am beth sydd yn eisiau yn eu bywyd cartref.
Esgeulustod
Mae esgeulustod yn risg difrifol pan fydd sylw rhieni wedi ei hoelio ar gael cyffuriau ac alcohol. Efallai y caiff plentyn ei adael yn newynog neu’n frwnt, heb ddillad, cysgod, gofal meddygol neu ofal iechyd digonol, na goruchwyliaeth arno. Esgeulustod yw’r math mwyaf cyffredin o gamdriniaeth plant. Gall effeithio’n andwyol ar ddatblygiad plentyn a’i lesiant emosiynol. Mae plant yn marw o esgeulustod.
Camdriniaeth rywiol a chorfforol
Mae camdriniaeth rywiol a chorfforol yn fwy tebygol mewn cartrefi lle bydd rhiant yn camddefnyddio sylweddau, gyda phlant mewn perygl oddi wrth eu rhieni ac oedolion eraill.
Camdriniaeth ddomestig
Mae plant i rieni sy’n camddefnyddio sylweddau yn debycach o fod yn dyst i ymosodiadau corfforol ar eraill a chamdriniaeth ddomestig.
Risgiau iechyd
Bydd plant ifanc o bosibl yn colli brechiadau neu mewn perygl o newyn neu gamfaethiad. Mae problemau iechyd sy’n gysylltiedig â straen fel stumog dost, cur pen neu asthma yn gyffredin, yn yr un modd â gwlychu’r gwely.
Gwahanu
Mae’n bosibl y caiff plant i rieni sy’n camddefnyddio sylweddau eu gwahanu oddi wrthynt am fod y rhieni yn y carchar, yr ysbyty, yn absennol ar hap ac, os bydd y cartref yn mynd yn anniogel ar gyfer y plentyn, gall gwasanaethau cymdeithasol ei symud oddi yno.
Gall plant feio eu hunain am ymddygiad eu rhieni, yn enwedig os bydd rhywun wedi dweud wrthynt mai arnynt hwy mae’r bai. Byddant efallai’n meddwl bod yna rywbeth y gallent ei wneud – neu beidio â’i wneud – a fydd yn mynd â’r ymddygiad yfed a’r cyffuriau i ffwrdd.
Ni allai dim fod ymhellach o’r gwirionedd. Ni all plant achosi i riant yfed neu ddefnyddio cyffuriau, ac ni allant ddatrys caethiwed.
Gofalwyr ifanc
Mae plant i rieni sy’n camddefnyddio sylweddau weithiau’n darganfod bod rôl rhiant-plentyn yn cael ei gwrthdroi ac ar eu hysgwyddau hwy mae’r cyfrifoldebau gofalu. Os bydd hyn yn digwydd, maent yn ofalwr ifanc ac mae’n rhaid iddynt chwilio am gefnogaeth yn eu rôl.
Cadw plant yn ddiogel
Cyfrifoldeb pawb yw cadw plant yn ddiogel.
Os credwch fod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor neu ffoniwch yr heddlu ar 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Peidiwch â phoeni y gallech chi fod yn anghywir, mae’n dal i fod yn bwysig i rywun sydd â phrofiad a chyfrifoldeb edrych i mewn i’r mater.
Ni fydd neb yn datgelu’ch enw chi a gallech chi fod yn achub bywyd plentyn.