skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Fel arfer defnyddir y term ‘camdriniaeth ddomestig’ i ddisgrifio camdriniaeth sy’n digwydd rhwng oedolion sydd – neu a fu unwaith – mewn perthynas agos neu rywiol.

Fodd bynnag, gall camdriniaeth ddigwydd o fewn perthnasoedd agos eraill, e.e. parau ifanc, brodyr a chwiorydd, a hanner- a llys-frodyr a chwiorydd.

Mae camdriniaeth ddomestig yn ymwneud â phŵer. Mae un person yn ceisio rheoli person arall gyda bygythiadau, trais corfforol, grym rhywiol, rheolaeth ariannol neu gamdriniaeth emosiynol – ac yn aml, cyfuniad o’r rhain.

Mae’n gallu digwydd i unrhyw un, beth bynnag eu hoedran, dosbarth, hil, crefydd, rhywedd, rhywioldeb, deallusrwydd, incwm neu ddull o fyw.

Mae trais rhywiol yn ymddygiad o natur rywiol sy’n ddieisiau ac sy’n cael ei orfodi ar rywun, e.e. trais, ymosodiad rhywiol neu gyffwrdd. Mae’n gallu golygu rhoi alcohol neu gyffuriau treisio ar ddêt i rywun fel na fyddant yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd iddynt.

Mae camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol yn aml yn mynd law yn llaw. Gall rhywun cael ei dreisio neu ddioddef ymosodiad rhywiol gan rywun maent mewn perthynas â nhw.

Yr effaith ar blant

Mae gadael i blant weld camdriniaeth ddomestig ynddi ei hun yn ffurf o gamdriniaeth plant. Os oes gennych blant ac yn aros mewn perthynas ymosodol, gall fod ystyriaethau amddiffyn plant.

Mae’n hysbys bod camdriniaeth ddomestig yn cael effaith negyddol ar lesiant plant hyd yn oed pan nad oes unrhyw drais corfforol dan sylw (neu nad ydynt yn ei weld).

Bydd natur annarogan bywyd teuluol yn gwneud iddynt deimlo’n ddiymadferth, yn ofnus ac yn ofidus am y dyfodol. Bydd plant yn gweld trallod emosiynol y rhiant sy’n cael ei gam-drin a byddant yn ofnus am eu diogelwch hwythau.

Bydd babanod a phlant ifanc efallai’n cael eu dal yn y cyfnewid a hyd yn oed cael eu hanafu’n ddamweiniol. Gall plant hŷn gael eu harwain i gymryd ochr; gallai ceisio amddiffyn brodyr a chwiorydd eraill neu’r rhiant sy’n cael ei gam-drin eu gosod mewn perygl.

Os bydd un rhiant yn cadw arian neu fwyd yn ôl yn fwriadol, gall plant fynd yn newynog neu gael eu gadael yn oer a heb ddillad digonol. Mae cwsg aflonydd yn gallu ei gwneud yn anodd i blant oedran ysgol ganolbwyntio mewn gwersi; bydd presenoldeb gwael gan rai eraill.

Gall plant sydd â hunan-barch isel iawn o ganlyniad i gamdriniaeth ddomestig fod yn fwy agored i anhwylderau bwytahunan-niweidio ac ymddygiad cymryd risg

Brodyr a chwiorydd, hanner- a llys-frodyr a chwiorydd

Mae rhywfaint o gystadleuaeth a chwarae garw yn normal ymhlith brodyr a chwiorydd. Efallai y bydd angen tipyn o amser ar lysfrodyr a chwiorydd i addasu i’r sefyllfa newydd, yn arbennig os bydd baban newydd yn cyrraedd. 

O bryd i’w gilydd, bydd y genfigen a/neu’r ymosodedd lefel isel hwn yn cynyddu’r rhywbeth mwy difrifol, fel bwlio, unigedd a/neu ymddygiad treisiol neu ymosodol yn rhywiol, fel arfer tuag at frawd iau neu chwaer.

Dylai rhieni bob amser atal trais rhwng brodyr a chwiorydd. Os na fydd y plentyn ymosodol yn gwrando ar reswm, ceisiwch gyngor a mynnwch gymorth proffesiynol os bydd angen.

Perthnasoedd ifanc

Nid yw pobl ifanc yn rhydd rhag camdriniaeth ddomestig a rhywiol yn eu perthnasoedd nhw ychwaith.

Chwiliwch am yr arwyddion rhybuddio am anian reolus bosibl partner newydd:

  • cenfigen obsesiynol
  • angen gwybod ble mae’r person arall drwy gydol yr amser
  • iselhau rhywun neu wneud iddo deimlo’n wael amdano ei hun
  • gwthio rhywun i mewn i ryw, hyd yn oed pan na fydd yn barod amdano
  • cam-drin cyffuriau neu alcohol
  • dyrnu, gwthio, brathu, tynnu gwallt, cicio yn ‘chwareus’
  • gafael yn wyneb rhywun i’w orfodi i wrando, aros neu adael
  • gwrthod derbyn bod y berthynas drosodd, e.e. stelcian

Nid yw’r ymddygiad hwn yn normal ac ni ddylent wneud esgusodion amdano. Mae perthnasoedd sy’n dechrau ar sail camdriniaeth fel arfer yn gwaethygu.

Atal camdriniaeth ddomestig

Os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei gam-drin neu’n dyst i gamdriniaeth ddomestig, adroddwch eich pryderon ar unwaith (nid oes rhaid i chi adael eich enw). Peidiwch ag aros nes eich bod yn 100% sicr - gallai fod yn rhy hwyr. Gallai’ch galwad chi achub bywyd plentyn.

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os yw’ch pryderon yn ymwneud â phlentyn oedran ysgol, gofynnwch am gael siarad ag athro/athrawes amddiffyn plant dynodedig yr ysgol.

Mae gan weithwyr cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i ymchwilio i unrhyw bryderon am blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed os byddant yn dod i wybod y gallai fod mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Mwy o wybodaeth

Mae Cymorth i Fenywod Cymru a Dyn Wales yn cefnogi menywod a dynion y mae camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol yn effeithio arnynt.

Mae gan Byw Heb Ofn sgwrsio byw 24/7. Llinell gymorth: 0808 8010 800.

Mae Stop It Now! (Saesneg yn unig) yn cefnogi rhieni ac eraill i adnabod ac atal camdriniaeth rywiol plant.

Mae NSPCC Cymru yn amddiffyn plant. Ffoniwch: 0808 800 5000.

Gall pobl ifanc siarad yn gyfrinachol yn MEIC (Ffoniwch: 0808 802 3456) neu ChildLine (Ffoniwch: 0800 1111).  

Mae The Survivors Trust Cymru (Saesneg yn unig) yn cefnogi dioddefwyr trais a chamdriniaeth rywiol. Ffoniwch: 0808 801 0818.(9.30yb–4yh, dydd Llun i ddydd Gwener).

Mae Young Minds (Saesneg yn unig) yn cefnogi’r sawl sy’n poeni am gamdriniaeth. Mae llinell gymorth ar gyfer rhieni hefyd. Ffoniwch: 0808 802 5544.

Diweddariad diwethaf: 21/12/2022