Mae cael eich stelcio yn brofiad dryslyd a brawychus i unrhyw un, yn arbennig os yw’n parhau am gyfnod hir.
Yn yr un modd â chamdriniaeth ddomestig, mae stelcio yn ymwneud ag unigolyn yn rheoli rhywun arall – mae’r stelciwr yn teimlo ei fod mewn sefyllfa o bŵer dros y sawl mae’n ei stelcio, yn arbennig os oes ofn ar y fictim.
Benywod sy’n dioddef stelcio yn anghymesur, gyda llawer yn cael eu stelcio gan gyn bartneriaid sydd naill ai’n gwrthod derbyn bod y berthynas drosodd neu sy’n dymuno eu cosbi am ddod â’r berthynas i ben. Cyn bartneriaid yw’r math o stelciwyr sy’n fwyaf tebygol o droi at drais corfforol.
Gall stelciwr ddilyn ac aflonyddu ar destun ei fwriadau rhamantaidd i’r cyfryw raddau ei fod yn effeithio ar deulu, ffrindiau a chydweithwyr y dioddefwr.
Ydych chi’n cael eich stelcio?
Nid yw bob amser yn amlwg ar y dechrau eich bod yn cael eich stelcio, yn arbennig os yw’r stelciwr yn rhywun nad ydych chi’n ei adnabod yn dda neu’n rhywun gallech chi ddisgwyl yn rhesymol bwrw i mewn iddyn nhw’n rheolaidd.
Efallai bo dymddygiad rhywun yn gwneud i chi deimlo’n anghysyrus, ond nid ydych chi’n siŵr mai stelcio ydyw.
Mae gan Suzy Lampugh Trust offeryn ar-lein i'ch helpu i benderfynu a ydych chi neu rywun arall yn cael eich stelcian.
Stelcio a’r gyfraith
Mae stelcio a stelcio sy’n cynnwys ofn neu drais neu niwed a thrallod difrifol yn droseddau o dan Ddeddf Aflonyddu 2012.
Os ydych chi’n cael eich stelcio, neu’n amau eich bod yn cael eich stelcio a ddim yn gwybod beth i’w wneud, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol (Saesneg yn unig).
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.