Gan fod mwy nag un o bob pedwar o bobl yn dioddef problemau iechyd meddwl ar unrhyw un adeg, mae siawns deg y bydd hyn yn effeithio ar lawer o rieni.
Mae magu plant yn heriol i bawb, ond pan fydd eich llesiant emosiynol wedi cyrraedd y gwaelod, neu os ydych wedi derbyn diagnosis o gyflwr iechyd meddwl, mae’r sefyllfa yn gallu teimlo’n orlethol.
Mae’n rhaid i rieni roi anghenion eu plant o flaen eu hanghenion eu hunain; ond os nad ydych chi mewn man positif eich hunan, gall fod yn anodd rhoi’r anogaeth a’r gefnogaeth mae eu hangen i’ch plentyn.
Pan fydd bywyd yn mynd yn drech na chi
Mae teimlo’n isel o bryd i’w gilydd yn beth normal. Mae bywyd yn tueddu i gyflwyno anawsterau i ni ac mae bron yn amhosibl mwynhau teimlad positif o lesiant pan fyddwch yn wynebu problemau mawr fel:
Fel arfer mae gan bobl sydd mewn iechyd meddwl da y cydnerthedd i ddatrys ac ymdopi â phroblemau bywyd ac i wella ar ôl salwch, newid mewn amgylchiadau neu anhap arall. Fel arfer bydd y teimladau o bryder, trallod ac anobaith yn dod i ben wrth i’w sefyllfa wella.
Os nad oes dim byd arall gallwch ei wneud, mae’n werth cymryd camau i hybu’ch llesiant emosiynol fel na fydd effaith andwyol ar eich galluoedd rhianta.
Mae problemau llesiant meddwl isel ac iechyd meddwl yn gysylltiedig; ond nid yw teimlo’n isel am reswm penodol yn golygu o reidrwydd bod gennych chi broblem iechyd meddwl. Yn yr un modd, nid yw derbyn diagnosis o gyflwr iechyd meddwl yn golygu na allwch chi fwynhau cyfnodau o lesiant positif.
Rhieni â phroblemau iechyd meddwl
Er ei bod yn naturiol pryderu am effaith bosibl eich cyflwr iechyd meddwl ar eich plant, nid oes unrhyw reswm pam na allwch chi fod cystal rhiant â neb arall wrth ymdopi â phroblem iechyd meddwl.
Cofiwch, nid oes y fath beth â rhiant perffaith. Mae pob rhiant yn wynebu heriau, p’un a oes ganddynt broblem iechyd meddwl neu beidio ac, os ydych chi’n derbyn triniaeth, ni ddylai’ch cyflwr effeithio ar eich galluoedd rhianta.
Y peth pwysig yw y gallwch ddarparu cartref diogel a sefydlog i’ch plentyn, lle bydd yn teimlo y caiff ei garu a’i amddiffyn. Os yw’ch plentyn yn ddigon hen, esboniwch eich salwch iddo a dwedwch wrtho nad arno ef mae’r bai.
Os ewch yn sâl, byddwch yn fodlon dibynnu ar bobl eraill nes i chi wella. Os nad oes neb a all gamu i’r adwy, cysylltwch â’r gwasanaethau cymdeithasol i ofyn am gymorth.
Cael cymorth proffesiynol
Weithiau mae dim ond siarad â rhywun yn gallu helpu – cyfaill neu berthynas efallai – ond os bydd eich teimladau o iselder, dicter, gofid neu straen yn gwrthod mynd i ffwrdd ac yn effeithio ar eich gallu i edrych ar ôl eich plentyn, mae’n bryd gofyn am gymorth proffesiynol (Saesneg yn unig).
Cewch siarad â’ch meddyg teulu neu, os oes gennych chi blant ifanc, ymddiried yn eich ymwelydd iechyd. Byddant yn cynnig cyngor ac yn awgrymu ble i ddod o hyd i help.
Mwy o wybodaeth
Mae MIND yn cynnig cyngor i rieni sydd â phroblemau iechyd meddwl (Saesneg yn unig).
Mae gan Rethink Mental Illness (Saesneg yn unig) wybodaeth am fyw gyda salwch meddwl.
Mae Parent Talk Cymru yn darparu cymorth rhianta dwyieithog, gan gynnwys erthyglau ar-lein a sgwrs un-i-un.
Mae Amser i Newid Cymru yn ymgyrchu i newid y ffordd mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn mewn perthynas â phroblemau iechyd meddwl.
Llinell gymorth gyfrinachol yw C.A.L.L. ar gyfer materion iechyd meddwl. Ffoniwch: 0800 132 737.
Mae’r Samariaid yn cynnig man diogel i bobl siarad. Nid oes rhaid i chi fod yn hunanladdol. Ffoniwch: 116 123 (24/7). Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm-11pm bob dydd).