Mae’r mwyafrif o rieni yn mynd yn sâl o bryd i’w gilydd, ond pan fydd y salwch yna’n ddifrifol, yn newid bywyd neu’n derfynol, mae’n naturiol poeni am ei effaith ar eich plant.
Mae plant a phobl ifanc yn disgwyl i’w rhieni ddarparu cartref diogel, edrych ar eu holau nhw, eu hamddiffyn a darparu ar eu cyfer nhw. Pan fydd rhiant yn mynd yn sâl ac yn methu gwneud y pethau hynny, mae’n gallu bod yn frawychus ac yn ofidus iawn iddyn nhw.
Bydd plant yn ymateb i salwch rhiant mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar eu hoedran a’u hanianawd, ac a ydych chi’n debygol o wella neu beidio. Efallai y bydd plant iau yn mynd yn ôl i ymddygiad blaenorol, e.e. gwlychu’r gwely, tra bydd plant hŷn efallai’n ymgilio neu’n dangos arwyddion pryder. Efallai na fydd arddegwyr eisiau ei ddangos, ond fel arfer maen nhw yr un mor bryderus.
Bydd y mwyafrif o blant yn addasu’n dda i salwch rhiant, hyd yn oed os yw’n golygu rhai newidiadau i’w trefn a’u gweithgareddau hwythau, yn enwedig os ydyn nhw’n teimlo’n rhan o beth sy’n digwydd.
Siarad â’ch plentyn
Mae plant yn synhwyro pan fydd rhywbeth o’i le gartref - ac yn aml yn gorglywed oedolion eraill yn siarad. Os ceisiwch guddio’r gwirionedd, maen nhw’n gallu cam-ddeall ac yn y pen draw poeni bod yr hyn sy’n digwydd yn fwy brawychus byth.
Mae’n naturiol eisiau eu hamddiffyn, ond os ydy’ch plentyn yn ddigon hen i ddeall peth o natur salwch, byddwch yn onest gyda nhw, hyd yn oed os ydyn nhw’n rhy ifanc i gymryd popeth i mewn.
Dwedwch enw’ch salwch wrthyn nhw a siaradwch â nhw am unrhyw driniaeth rydych chi’n ei chael a’ch prognosis. Os bydd angen llawdriniaeth arnoch chi, beth fydd yn digwydd.
Os ydy’ch plentyn yn ôl pob golwg yn anfodlon siarad am eich salwch, rhowch amser i’r peth. Mae plant yn wahanol ac efallai na fydd rhai am siarad am eu teimladau’n syth, neu hyd yn oed o gwbl.
Salwch terfynol
Pan fydd gennych chi salwch sy’n bygwth bywyd, mae’n gallu bod yn anodd iawn siarad â’ch plentyn am bosibilrwydd marwolaeth; ond mae’n bwysig peidio â diystyru eu cwestiynau mewn ymgais i gynnig sicrwydd iddyn nhw. Bydd eich plentyn yn poeni o hyd, ond byddan nhw wedi eu gadael ar eu pen eu hun i wneud hynny ac yn llai parod os bydd y gwaethaf yn digwydd.
Mae plant hŷn yn canfod mai peth parhaol yw marwolaeth ac yn gallu dychmygu sut fyddan nhw’n teimlo pan na fyddwch chi o gwmpas rhagor. Efallai y byddan nhw’n ymddangos yn ddig gyda chi am eu gadael – teimladau normal yw’r rhain. Atgoffwch eich plentyn eich bod chi’n eu caru a gadewch iddyn nhw rannu eu teimladau gyda chi.
Mae’r elusen Child Bereavement UK yn esbonio dealltwriaeth plant o farwolaeth (Saesneg yn unig) ar oedrannau gwahanol.
Ystyriaethau ymarferol
Nid yw cyfrifoldebau rhiant yn diflannu pan fydd rhywun yn mynd yn sâl. Os ydy’ch iechyd yn eich atal rhag edrych ar ôl eich plentyn a’i gadw’n ddiogel yna mae’n rhaid i chi ddibynnu ar help pobl eraill. Os nad oes neb sy’n gallu camu i mewn a chymryd drosodd am y cyfnod priodol, cysylltwch â’r gwasanaethau cymdeithasol a gofynnwch am help.
Bydd rhywun yn ymweld â’ch cartref i asesu’ch anghenion cymorth presennol. Mae’r broses asesu yn canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i chi, a beth rydych chi’n gallu ei wneud yn ogystal â’r pethau mae arnoch chi angen help gyda nhw.
Gallai enghreifftiau gynnwys:
Cred y gyfraith fod plant yn derbyn gofal orau o fewn eu teuluoedd eu hun ac fe gewch chi’ch cefnogi yn eich rôl fel rhiant.
Os salwch hirdymor neu derfynol sydd gennych chi, mae’n syniad da dweud wrth ysgol eich plentyn.
Hawliau plant
Mae gan blant a phobl ifanc eu hawliau eu hun, gan gynnwys yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Gofalwyr ifanc
Os bydd eich salwch yn golygu na allwch chi wneud rhai pethau heb gymorth, e.e. codi o’r gwely, gwisgo neu goginio pryd o fwyd, mae’n naturiol troi at eich teulu a’ch plant am gymorth.
Mae plant sy’n helpu eu rhieni fel hyn yn cael eu galw’n ofalwyr ifanc. Yn fwy na thebyg mae’ch plentyn yn hapus i helpu, ond byddwch yn ofalus nad yw eu rôl ofalu yn cymryd drosodd eu bywyd a bod ganddyn nhw amser o hyd i astudio, diddordebau a chymdeithasu gyda ffrindiau.
Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn bob amser yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng.
Mae elusennau plant fel Barnardo’s Cymru, Gweithredu dros Blant (Saesneg yn unig) a Credu Cymru yn cefnogi gofalwyr ifanc mewn rhai ardaloedd.
Mwy o wybodaeth
Mae eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yna i helpu pob rhiant.
Mae Mumsnet (Saesneg yn unig) yn cynnig cymorth i rieni dan bob amgylchiad.
Mae MacMillan (Saesneg yn unig) yn cefnogi pobl sydd â chanser i fyw gartref mor hir â phosibl.
Mae Hope Again (Saesneg yn unig) yn helpu pobl ifanc sydd wedi dioddef marwolaeth rhywun annwyl iddyn nhw. Llinell gymorth: 0808 808 1677
Mae Childline yn cefnogi gofalwyr ifanc. Ffôn: 0800 1111.