skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae llawer o blant yn cael eu magu mewn cartrefi lle bo gan un o’u rhieni neu’r ddau anabledd corfforol dros dro neu barhaol, neu anabledd dysgu.

Nid yw bod yn rhiant anabl, mewn llawer o ffyrdd, yn wahanol i fod yn rhiant nad yw’n anabl. Mae gennych chi’r un cyfrifoldebau fel rhiant (Saesneg yn unig), h.y. i amddiffyn eich plentyn a’i gadw’n ddiogel, rhoi cartref iddo a sicrhau y caiff ei gefnogi’n ariannol. Rhaid i chi enwi’ch plentyn a gwneud penderfyniadau am ei addysg a’i driniaeth feddygol.

P’un a oeddech chi’n rhiant anabl o’r cychwyn, wedi mynd yn anabl neu mae gennych chi anabledd sydd wedi gwaethygu, nid oes rhaid iddo effeithio ar eich gallu i fod yn rhiant da ac yn fodel rôl da. Mae llawer o rieni anabl yn magu eu plant heb yr angen am unrhyw gefnogaeth allanol o gwbl.

Yn dibynnu ar natur eich anabledd, efallai bod rhai tasgau bob dydd yn cymryd mwy o amser neu’n mynnu rhywfaint o greadigedd. Os ydych chi’n rhiant newydd, byddwch chi’n dod o hyd i ffyrdd o addasu ar fyr dro wrth i chi a’ch baban ddod i adnabod eich gilydd.

Nid yw rhianta’n digwydd ar ei ben ei hun, ac os oes yna rai pethau rydych chi’n methu eu gwneud, mae’n debyg y bydd ffrindiau ac aelodau teulu a fydd yn fwy na bodlon roi help llaw os gofynnwch. Os nad oes angen cymorth arnoch chi mewn gwirionedd, mae’n iawn dweud hynny hefyd.

Dim ond pan fydd anabledd rhywun yn eu hatal rhag bodloni anghenion emosiynol a chorfforol eu plentyn neu eu cadw’n ddiogel y bydd angen cymorth ar y teulu o bosib oddi wrth weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Anghenion cymorth newidiol

Mae natur edrych ar ôl plentyn sy’n tyfu yn golygu bod bywyd yn newid yn gyson. Os oes gennych chi anghenion gofal sy’n cael eu bodloni yn y gymuned – neu os defnyddiwch daliadau uniongyrchol – efallai na fydd y trefniadau a oedd ar waith cyn bod plant gennych chi’n addas am eich cyfrifoldebau a’ch blaenoriaethau newydd. Efallai bod hyn yn wir hefyd yn achos plant sy’n tyfu.

Mynnwch asesiad i’ch anghenion yn rheolaidd. Mae’r broses asesu yn canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i chi, a beth rydych chi’n gallu ei wneud yn ogystal â’r pethau mae arnoch chi angen help gyda nhw.

Plant i rieni anabl

Mae plant yn hynod o wydn ac yn hyblyg; ond mae cael rhiant anabl yn eu gwneud nhw’n wahanol i’r mwyafrif o blant eraill. Er y bydd y mwyafrif o blant yn iawn, cadwch lygad allan am arwyddion bod eich plentyn yn cael ei fwlio neu wedi bod yn fictim trosedd casineb anabledd.

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr hefyd bod anghenion datblygiadol, addysgol a chymdeithasol eich plentyn yn cael eu bodloni.

Mae gan blant a phobl ifanc eu hawliau eu hun, gan gynnwys yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.

Cred y gyfraith fod plant yn derbyn gofal orau o fewn eu teuluoedd eu hun ac fe gewch chi’ch cefnogi yn eich rôl fel rhiant.

Fel rhiant anabl, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn grant (Saesneg yn unig).

Gofalwyr ifanc

Os yw’ch anabledd yn barhaol, neu’n gwaethygu, efallai y bydd arnoch chi angen cymorth oddi wrth eich plentyn neu’ch plant, efallai help wrth godi yn y bore, gwneud prydau bwyd neu gyda thasgau cartref nad ydych chi’n gallu eu gwneud. 

Efallai y byddwch yn dibynnu ar eich plentyn neu blant i helpu i fagu eu brodyr a chwiorydd iau neu droi atynt i ddarparu cymorth emosiynol.

Mae gofalwyr ifanc fel arfer yn hapus i helpu eu rhieni fel hyn, fodd bynnag byddwch yn ofalus nad yw eu rôl ofalu yn cymryd drosodd eu bywyd a bod ganddyn nhw amser o hyd i astudio, diddordebau a chymdeithasu gyda ffrindiau. 

Mae elusennau plant fel Barnardo’s Cymru (Saesneg yn unig), Gweithredu dros Blant (Saesneg yn unig) a Credu Cymru yn cefnogi gofalwyr ifanc mewn rhai ardaloedd.

Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn bob amser yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng.

Mwy o wybodaeth

Mae eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yna i helpu pob rhiant.

Mae’r elusen Disability, Pregnancy and Parenthood (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor ymarferol a chymorth cymheiriaid ar gyfer rhieni anabl.

Mae gan Netmums (Saesneg yn unig) fforwm ar gyfer rhieni anabl a darpar rieni.

Mae Change People (Saesneg yn unig) yn cyhoeddi llyfrau i bobl ag anableddau dysgu, gan gynnwys am feichiogrwydd, rhianta, edrych ar ôl baban a magu plentyn bach. 

Mae Childline yn cefnogi gofalwyr ifanc. Tel: 0800 1111.

Diweddariad diwethaf: 11/01/2023