Pan fydd enwau’n cael eu galw ar blentyn neu berson ifanc, pan gaiff ei fwlio, ei fygwth neu ei anafu’n gorfforol gan bobl eraill oherwydd ei anabledd, hil, crefydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol, mae’n cael ei alw’n ddigwyddiad casineb neu’n drosedd casineb.
Mae digwyddiad casineb yn weithred gelyniaeth nad yw’n cael ei ddiffinio’n drosedd o dan y gyfraith, e.e. galw enwau ar rywun, sgriblan graffiti ar ei lyfrau ysgol.
Pan fydd digwyddiad casineb hefyd yn torri’r gyfraith, mae’n cael ei alw’n drosedd casineb, e.e. ymosodiad, lladrad, peri aflonyddwch neu drallod.
Weithiau bydd un plentyn yn cychwyn yr ymddygiad a bydd eraill yn ymuno.
Mae troseddau a digwyddiadau casineb yn ofidus iawn i’r dioddefwr ifanc. Os bydd yn parhau dros gyfnod hir, gall effeithio’n andwyol ar ei addysg, ei hyder a’i lesiant meddyliol.
Gall plant a phobl ifanc sy’n cyflawni troseddau casineb ddenu cofnod troseddol a allai eu hatal rhag dilyn rhai gyrfaoedd penodol.
Adnabod trosedd casineb
Mae trosedd casineb yn deillio o ragfarn neu gasineb sy’n seiliedig ar:
- anabledd
- hil/ethnigrwydd
- crefydd neu gred
- cyfeiriadedd rhywiol
- hunaniaeth o ran rhywedd.
Gallai person ifanc ddioddef trosedd casineb oherwydd pwy ydyw, pwy yw ei deulu, a hyd yn oed canfyddiad y cyflawnwyr o bwy ydyw, e.e. gallai person ifanc o dras Indiaidd fod yn destun galw enwau gwrth-Fwslemaidd er mai Hindŵ ydyw.
Mae troseddau cyfeillio yn fath o drosedd casineb anabledd pan fydd rhywun yn mynd ati i gyfeillio person ifanc hawdd ei niweidio gyda’r nod o gamfanteisio arno, ei gam-drin neu gymryd mantais.
Yn anffodus, mae troseddau casineb yn cynyddu, a allai olygu y bydd mwy o blant a phobl ifanc yn debygol o ddod ar eu traws.
Effaith cyfryngau cymdeithasol
Mae pobl ifanc yn agored iawn i ddigwyddiadau / troseddau casineb nad ydynt yn rhai wyneb yn wyneb. Mae poblogrwydd cyfryngau cymdeithasol yn aml yn golygu bod y sawl sy’n cael eu targedu yn yr ysgol yn methu â dianc rhag eu hymosodwyr, hyd yn oed gartref.
Seiberfwlio yw defnyddio cyfryngau cymdeithasol a ffonau symudol i watwar, aflonyddu, bygwth neu dargedu rhywun. Os canfyddiad y person ifanc sy’n dioddef y driniaeth hon yw ei bod yn cael ei chymell gan gasineb ar sail anabledd, hil, crefydd, rhywedd neu rywioldeb, mae’n ddigwyddiad casineb (neu’n drosedd casineb yn dibynnu ar natur y bwlio).
Atal troseddau casineb
Bydd plant yn dysgu drwy ddilyn enghreifftiau – gan eu rhieni, brodyr a chwiorydd a’u cyfoedion. Os byddant byth a beunydd yn clywed sylwadau hiliol neu homoffobig tu allan i’r ysgol, efallai y byddant yn meddwl ei bod yn iawn gweiddi enwau ar rywun sy’n dod o gefndir gwahanol neu wthio rhywun sy’n ansicr am ei rywioldeb.
Y ffordd orau o atal troseddau casineb yw dysgu i blant mor gynnar â phosibl nad oes dim o’i le ar fod yn wahanol a bod trosedd casineb – galw enwau ar rywun efallai am fod ganddo liw croen gwahanol – bob amser yn anghywir.
Erbyn hyn mae ysgolion yn gwneud rhagor i ddysgu i blant nad peth drwg yw gwahaniaethau a’u hatgoffa i ystyried teimladau’r person arall.
Adrodd troseddau casineb
Os bydd person ifanc yn dweud wrthych chi ei fod wedi dioddef digwyddiad neu drosedd casineb, dylech ei adrodd i’r heddlu a dweud a oedd yn credu iddo gael ei gymell gan anabledd, hil, crefydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol (bydd hyn yn sicrhau y caiff ei gofnodi fel digwyddiad neu drosedd casineb).
Os digwyddodd y peth yn yr ysgol neu yn ystod y daith i’r ysgol neu’n ôl, mae’n bwysig rhoi gwybod i’r ysgol.
Cysylltwch â Stop Hate UK (Saesneg yn unig), ffoniwch yr heddlu ar 101 neu adroddwch y digwyddiad i’r heddlu ar-lein (Saesneg yn unig).
Mwy o wybodaeth
Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn cynnig cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim i helpu pobl i ymdopi ac ymadfer o effaith troseddau casineb. Ffôn: 0300 30 31 982