Mae trosedd gyfeillio yn ffurf ar drosedd casineb anabledd.
Mae’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ati’n fwriadol i gyfeillio i rywun hawdd ei niweidio neu anabl yn unswydd er mwyn cam-fanteisio, cam-drin neu gymryd mantais arnynt.
Yn nodweddiadol mae’r sawl sy’n eu cyflawni yn manteisio ar bobl ag anawsterau dysgu a chorfforol, y sawl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, a phobl hŷn.
Byddant o bosibl yn treulio cryn amser yn meithrin perthynas o ymddiriedaeth â’r person arall cyn iddynt ddechrau cam-fanteisio arnynt.
Cydnabod arwyddion trosedd gyfeillio
Mae troseddau cyfeillio fel arfer yn digwydd mewn amgylchiadau preifat a gallant fod yn anodd eu canfod.
Efallai bod y sawl sy’n cael ei gyfeillio yn croesawu’r cyfeillgarwch neu’r berthynas a heb ei gydnabod fel camdriniaeth o gwbl.
Gan y bydd troseddau cyfeillio yn gallu cynnwys camdriniaeth gorfforol, emosiynol, rywiol ac ariannol, bydd yr arwyddion yn amrywio o berson i berson, ond fe allant gynnwys:
- anafiadau anesboniadwy
- newidiadau mewn ymddygiad, e.e. tynnu’n ôl o weithgareddau cymdeithasol
- bod yn brin o arian
- pethau’n mynd ar goll o’u cartref
Trosedd neu beidio?
Yr arwydd gyntaf bod trosedd gyfeillio yn digwydd yn aml yw pan gaiff fictim ei ddal yn cyflawni trosedd, er enghraifft, lladrata o siop neu gadw gwyliadwriaeth tra bod lladrad yn digwydd.
Nid yw pob achos o drosedd gyfeillio yn cynnwys gweithredoedd anghyfreithlon fel lladrata neu gam-drin corfforol; ond bydd ganddynt effaith negyddol ar y ddioddefwr o hyd.
Er enghraifft, dyn ifanc ag anableddau dysgu y mae ei ffrindiau newydd yn dod troi i fyny ar ddiwrnod budd-daliadau i’w ‘helpu’ i wario ei arian ar ddiod a sigarennau.
Mater i bawb yw diogelu
Os ydych chi’n pryderu bod rhywun rydych yn ei adnabod efallai’n dioddef trosedd gyfeillio, cysylltwch â Thîm Diogelu lleol eich cyngor lleol.
Rhoi gwybod am drosedd gyfeillio
Cysylltwch â Report Hate, ffoniwch yr heddlu ar 101 neu ei adrodd i’r heddlu ar-lein (Saesneg yn unig).
Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob tro.