Dod yn rhiant yw un o’r pethau anoddaf y bydd y mwyafrif ohonom ni yn ei wneud yn ein bywyd - a does dim llawlyfr na hyfforddiant ynghlwm wrtho.
Mae rhianta gan amlaf yn rhoi llawer o foddhad; ond gall fod yn heriol iawn hefyd, yn arbennig os nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o edrych ar ôl plant.
Mae yna gyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â bod yn rhiant neu’n ofalwr. Mae’r rhain yn cynnwys darparu cartref ar gyfer eich plentyn, ei gynnal yn ariannol a’i amddiffyn - mewn geiriau eraill, chi sy’n gyfrifol am edrych ar ôl y plentyn a’i gadw’n ddiogel.
Mae rhianta diogel yn golygu edrych ar ôl llesiant corfforol ac emosiynol eich plentyn. Mae’n cynnwys:
Nid yw cyfrifoldeb rhieni yn dod i ben nes i’ch plentyn gyrraedd 18 oed oni bai ei fod ef neu ei bod hi’n priodi yn 16 neu’n 17 oed (pan fydd eich cyfrifoldeb fel rhiant yn dod i ben).
Delio â phroblemau
Nid oes y fath beth â rhiant perffaith, ac mae’n anochel y byddwch o bryd i’w gilydd yn teimlo allan o’ch dyfnder, neu’n edrych yn ôl ac yn dymuno i chi ddelio â phethau’n wahanol.
Y peth pwysig yw bod eich plentyn yn gwybod eich bod yn ei garu a’ch bod yn ceisio gwneud y gorau amdano. Rhowch arweiniad a therfynau iddo, gan gydnabod ar yr un pryd ei fod yn gwthio yn eich erbyn o bryd i’w gilydd.
Peidiwch ag ofni gofyn am gymorth. Ni fydd heb yn meddwl eich bod yn rhiant drwg.
Hawliau plant
Mae angen amddiffyniad ychwanegol ar blant a phobl ifanc i aros yn ddiogel. Mae’r amddiffyniad ychwanegol hwn yn cael ei ddarparu ar ffurf hawliau plant. Yng Nghymru, mae’r hawliau hyn wedi eu hymgorffori yn y gyfraith.
Curo plentyn
Ers mis Mawrth 2022, mae pob math o gosbi plant yn gorfforol – fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd – yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu y gallai unrhyw riant sy’n dangos unrhyw fath arall o drais corfforol tuag at eu plentyn – neu unrhyw blentyn arall – gael ei arestio a’i erlyn am ymosodiad.
Gadael eich plentyn ar ei ben ei hun
Yn rhyfeddol, nid oes unrhyw gyfraith i ddweud ar ba oedran y cewch adael plentyn ar ei ben ei hun, e.e. gartref neu mewn car. Mae hyn yn golygu mai penderfyniad y rhieni yw pryd mae plentyn yn ddigon aeddfed i gael ei adael ar ei ben ei hun ac am faint o amser.
Mae’r NSPCC (Saesneg yn unig) yn awgrymu’r mathau o bethau y dylai rhieni eu cymryd i ystyriaeth cyn gadael plentyn ar ei ben ei hun, ond mae’n rhybuddio:
- na ddylai babanod, plant bach a phlant ifanc iawn byth gael eu gadael ar eu pen eu hun
- anaml y bydd plant dan 12 oed yn ddigon aeddfed i gael eu gadael ar eu pen eu hun am gyfnod hir
- na ddylai plant dan 16 oed gael eu gadael ar eu pen eu hun dros nos
Os nad ydych yn sicr a allai eich plentyn ymdopi ar ei ben ei hun, y peth gorau yw peidio â’i adael. Gallwch gael eich erlyn os gadewch blentyn heb oruchwyliaeth ‘mewn dull sy’n debygol o beri dioddefaint diangen neu anaf i iechyd’.
Cymorth a chyngor am rianta
Mae Magu Plant. Rhowch Amser Iddo yn cynnig cyngor ymarferol am rianta, awgrymiadau a gweithgareddau i unrhyw sy’n gyfrifol am fagu plant o’u geni hyd bum mlwydd oed.
Mae eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn ffynhonnell dda arall cefnogaeth i rieni.
Mae Parent Talk Cymru yn darparu cymorth rhianta dwyieithog, gan gynnwys erthyglau ar-lein a sgwrs un-i-un.
Mae’r NSPCC wedi cyhoeddi arweiniad i Rianta Cadarnhaol, y cewch ei lawrlwytho (fersiwn Saesneg) yn rhad ac am ddim.