Bob wythnos, mae plant o bob oedran yn cael eu hanafu, eu hanffurfio, eu hanablu a’u lladd mewn damweiniau difrifol yn y cartref.
Diodydd poeth, grisiau, baddonau, ffenestri, cortynnau cysgodlenni, gwresogyddion, pyllau yn yr ardd, cynhyrchion glanhau, teganau, ci’r teulu ... weithiau mae fel pe bai perygl yn llercian o gwmpas pob cornel y cartref cyffredin.
Plant cyn-ysgol sy’n cael y mwyafrif o ddamweiniau yn y cartref, gyda bechgyn yn fwy tebygol o ddioddef damweiniau na merched. Yn echryslon, anafiadau damweiniol yw achos pennaf marwolaeth ymhlith plant dros un flwydd oed.
Cwympo sy’n cyfrif am y mwyafrif o anafiadau ymhlith plant dan 4 oed, tra bod tân yn lladd y nifer uchaf yn yr un grŵp oedran.
Nid yw pobl ifanc yn dianc rhag damweiniau ychwaith, gydag angen triniaeth ar filoedd mewn meddygfa teulu neu adran damweiniau a brys am ddamweiniau sy’n digwydd gartref.
Mathau cyffredin o ddamweiniau yn y cartref
Y peryglon pennaf i blant ifanc yn y cartref yw:
- Cwympo: mae cwympau ar loriau llithrig neu anwastad, cwympau o’r gwely, cadeiriau uchel, waliau a ffenestri.
- Llosgi a sgaldio: tanau yn y cartref, barbeciws, matsis, tân gwyllt, baddonau poeth a diodydd poeth.
- Tagu: ar fwyd, teganau bach, batrïau, darnau arian.
- Cŵn: mae babanod/plant bach yn fwy tebygol o ddioddef ymosodiadau gan gŵn.
- Llindagu: ar gortynnau tynnu, llenni, dillad, gwregysau.
- Mygu: bagiau plastig, blancedi, cathod, clustogau a thegannau meddal.
- Gwenwyno: gyda chynhyrchion glanhau, sylweddau gwenwynig, meddyginiaeth.
- Boddi: yn y baddon, pwll neu dwb poeth.
Ymhlith peryglon cartref eraill mae trydan, nwy yn gollwng a charbon monocsid.
Pam mae plant yn cael mwy o ddamweiniau
Mae plant iau yn fwy tebygol o gael damweiniau yn y cartref na phlant hŷn ac oedolion. Mae’r rhesymau am hynny yn cynnwys:
- Eu maint: nid yw plant bach yn gallu gweld peryglon uchel ac efallai na fydd pobl eraill yn eu gweld hwythau.
- Llai o brofiad o’r byd: nid yw plant bob amser yn sylweddoli bod sefyllfa neu weithgaredd yn beryglus.
- Chwilfrydedd: mae plant yn fentrus yn naturiol, e.e. neidio i mewn i afonydd.
- Direidi: mae gwthio, dringo a ffwlbri yn gallu arwain at ddamweiniau.
- Stranciau a dagrau: weithiau bydd plant yn rhedeg i ffwrdd ac i mewn i lwybr perygl.
- Diffyg goruchwyliaeth: mae angen gwylio plant ifanc, yn arbennig pan fyddant wrth ymyl tanau, grisiau, pyllau, cŵn a sylweddau peryglus.
Rhagofalon diogelwch cyffredinol
Mae’n amhosib atal pob cwymp, briw a chlais ond mae yna gamau syml y gall rhieni eu cymryd i atal y digwyddiadau gwaethaf oll rhag digwydd.
Mae’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Plant (Saesneg yn unig) yn amlygu’r risgiau diogelwch penodol i blant ar bob cam o’u datblygiad ac yn cynnig cyngor ar sut i osgoi damweiniau.
Mae gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (Saesneg yn unig) lawer o gyngor diogelwch plant ar ei gwefan, gan gynnwys adrannau ynghylch:
- cwympo
- tanau
- gwenwyno
- cynhyrchion glanhau’r tŷ
- mygu a thagu
- sgaldio a llosgi
- llindagu
- boddi
Mae tri gwasanaeth tân Cymru - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - yn hyrwyddo diogelwch tân ac yn cynnal gwiriadau diogelwch tân am ddim.
Mae gan Wythnos Diogelwch Plant (Saesneg yn unig) lawer o gynghorion am ddiogelwch.
Mae gan yr RSPCA gyngor (Saesneg yn unig) ar sut mae plant a chŵn yn gallu byw yn ddiogel gyda’i gilydd.
Gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng
Gallai dysgu sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol helpu i achub bywyd baban neu blentyn. Mae'r Groes Goch yn cynnal cyrsiau pedair awr Cymorth Cyntaf i Fabanod a Phlant (codir tâl). Mae gan Ambiwlans Sant Ioan gyfres o fideos byr defnyddiol, sy'n ymdrin â phob math o bynciau gan gynnwys beth i'w wneud os yw'ch babi yn tagu.
Os ydych chi’n poeni am anafiadau’ch plentyn neu’n ansicr amdanyn nhw, gofynnwch am gyngor meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111 Cymru.
Ffoniwch ambiwlans ar 999 ar unwaith os bydd y plentyn:
- yn stopio anadlu
- yn ei chael yn anodd anadlu
- yn methu deffro, yn anymwybodol neu yn ôl pob golwg heb fod yn ymwybodol o beth sy’n mynd ymlaen
- yn cael ffit am y tro cyntaf, hyd yn oed os yw’n edrych pe bai wedi ymadfer.