Gallwch feddwl eich bod chi’n ddiogel yn y cartref, ond y gwirionedd yw bod eich cartref yn gallu bod yn lleperyglus iawn. Yn wir, mae mwy o ddamweiniau’n digwydd gartref nag unman arall, a phlant dan bump oed a phobl dros 65 oed yw’r fictimau tebycaf.
Y newyddion da yw bod modd osgoi’r mwyafrif o ddamweiniau yn y cartref drwy gynnal a chadw cyfarpar eich cartref yn briodol, cymryd rhagofalon synhwyrol a chadw llygad allan am arwyddion rhybuddio bod rhywbeth o’i le.
Mae gan y Gymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau (Saesneg yblawer o ganllawiau am ddiogelwch yn y cartref ar ei gwefan, gan gynnwys adrannau am ddiogelwch cyffredinol yn y cartref (Saesneg yn unig), diogelwch pobl hŷn (Saesneg yn unig) a diogelwch cynhyrchion (Saesneg yn unig).
Mae rhai o’r cynghorion diogelwch gorau ar-lein yn dod oddi wrth dri gwasnaeth tân ac achub Cymru.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig digonedd o gyngor ar ei wefan am Eich Cadw Chi’n Ddiogel. Pynciau fel offer trydanol, canhwyllau, trefnu llwybr dianc, a dianc o adeilad uchel eu cwmpasu.
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru adran gynhwysfawr Diogelwch Cartref ar ei gwefan.
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddigonedd o wybodaeth ar ei wefan ef hefyd, gan gynnwys gwybodaeth am ddiogelwch trydanol.
Bydd y tri sefydliad yn cynnal ymweliadau diogelwch cartref am ddim ac efallai y byddwch yn gymwys i gael larymau mwg am ddim.