skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Nid oes gan garbon monocsid unrhyw flas, lliw nac arogl, ond mae’n nwy hynod o wenwynig sy’n cymryd bywydau bob blwyddyn. Am ei fod mor anodd ei ganfod, mae’n bosibl mewnanadlu carbon monocsid heb sylweddoli ei chi bod yn gwneud - a hynny gyda chanlyniadau angheuol yn aml.

Pan fydd carbon monocsid yn mynd i mewn i lif y gwaed mae’n atal celloedd y gwaed rhag cludo ocsigen a’r diffyg ocsigen yma sy’n achosi marwolaeth.

Fel arfer mae gwenwyno carbon monocsid yn ganlyniad cyfarpar nwy sydd wedi eu gosod yn anghywir, eu hatgyweirio’n wael neu wedi eu cynnal a chadw’n wael. Mae’n gallu digwydd hefyd pan fydd ffliwiau, simneiau neu awyrellau wedi eu blocio.

Beth yw symptomau gwenwyno carbon monocsid?

Mae llawer o’r symptomau’n debyg i rai ffliw, gwenwyno bwyd a heintiadau. I ddechrau, efallai y byddwch chi’n teimlo ychydig yn flinedig ac yn gyffredinol sâl ond heb ddim byd penodol.

Y cliw mawr yw eich bod chi’n teimlo’n waeth pan fyddwch chi gartref, ac mae’r symptomau’n llai difrifol pan fyddwch chi’n rhywle arall.

Gall datguddiad parhaus i garbon monocsid arwain atoch chi’n teimlo’n benysgafn, yn swrth ac yn methu canolbwyntio. Efallai y byddwch chi’n dechrau teimlo’n ansad ar eich traed neu’n fyr eich anadl.

Os yw’r bobl sy’n byw gyda chi yn dioddef symptomau tebyg, dylech chi amau gwenwyno carbon monocsid.

Rydych chi mewn perygl arbennig o wenwyno carbon monocsid pan fyddwch chi’n cysgu gan na fyddwch chi’n sylwi ar y symptomau cynnar. OS credwch eich bod efallai wedi cael eich datguddio i garbon monocsid, agorwch bob ffenestr a cheisiwch gymorth meddygol.

Dan amgylchiadau lle mae perygl dybryd, ffoniwch Linell Gymorth Argyfyngau Nwy ar 0800 111 999. 

Canfodyddion carbon monocsid

Mae canfodyddion carbon monocsid yn rhad i’w prynu ac ar gael yn rhwydd o siopau ar y stryd fawr ac ar-lein.

Mae Connevans (yn cael ei gefnogi gan yr RNID) yn gwerthu canfodyddion carbon monocsid (Saesneg yn unig) sy’n addas i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.

Os ydych chi dros 60 oed, mae’n bosibl y bydd Gofal a Thrwsio Cymru yn gallu gosod canfodydd carbon monocsid yn eich cartref. Cysylltwch â’ch asiantaeth leol neu ffoniwch 0300 111 3333.

Diweddariad diwethaf: 02/05/2023