Tân a thanau bwriadol
Mae tanau’n dechrau’n sydyn, yn lledu’n gyflym ac yn peryglu bywydau.
Y peth gorau i’w wneud yw eu hatal rhag dechrau yn y lle cyntaf. Mae tanau agored, gwresogyddion cludadwy, canhwyllau, sosbenni sglodion a sigarennau i gyd yn achosion mawr tanau. Mae offer trydanol sy’n hen ac wedi ei gynnal yn wael a socedi sy’n cael eu gorlwytho hefyd yn beryglon posibl. Does dim angen dweud y dylech chi bob amser gadw matsys a thanwyr allan o gyrraedd plant.
Os bydd y gwaethaf yn digwydd ac mae tân yn dechrau, peidiwch byth â cheisio mynd i’r afael ag ef eich hunan. Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gadael yr adeilad yn gyflym a ffoniwch y gwasanaeth tân ar 999.
Larymau mwg a gwiriadau diogelwch cartref
Yn ôl yr ystadegau rydych chi chwe gwaith mor debygol o farw o dân yn eich cartref os nad oes gennych chi larwm mwg wedi ei osod.
Peidiwch â chymryd y risg. Ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, bydd eich gwasanaeth tân lleol yn cynnal gwiriad diogelwch tân cartref yn rhad ac am ddim. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael larwm tân am ddim.
Yn ystod yr ymweliad, sy’n cymryd tua ugain munud ac sy’n gallu cael ei drefnu ar adeg sy’n gyfleus i chi, bydd staff tân a achub hyfforddedig (sydd bob amser yn cario cerdyn adnabod):
- yn cyflenwi ac yn gosod synhwyrydd mwg am ddim, a allai achub bywydau, neu’n sicrhau bod larymau presennol yn gweithio
- yn rhoi cyngor ar sut i wneud eich cartref yn ddiogel rhag tân
- yn eich helpu i baratoi cynllun dianc i’ch helpu i fynd allan o’r adeilad yn achos tân
- yn darparu offer arbenigol i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw
- yn asesu a ydych chi mewn risg uchel ac a fyddai offer arbenigol o fudd i chi i’ch cadw’n ddiogel
Ffoniwch: 0800 169 1234 i drefnu eich ymweliad diogelwch cartref.
I drefnu ymweliad ar-lein – neu i wybod mwy am ddiogelwch tân yn y cartref – ewch i ewfan eich gwasanaeth tân lleol
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Eich amddiffyn rhag tanau bwriadol
Er bod y mwyafrif o’r bobl sy’n cynnau tanau’n fwriadol yn targedu adeiladau gwag, e.e. warysau neu ysgolion gwag, mae yna rai sy’n fodlon rhoi bywydau mewn perygl ac i ddechrau tân wrth gartref rhywun.
Os ydych chi’n dod i mewn y grŵp penodol hawdd ei niweidio, e.e. rydych yn fictim camdriniaeth ddomestig neu drosedd casineb, efallai yr ystyriwch cael blwch llythyrau metel wedi ei osod er eich tawelwch meddwl chi. Mae’r rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o ddeunyddiau sy’n llosgi (gan gynnwys tân gwyllt) drwy gwtogi’r ocsigen mae ei angen.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’ch uned troseddau tân leol.
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - 0370 6060699 ffurflen gysylltu ar-lein
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru - 01745 535250 ffurflen gysylltu ar-lein
Uned Troseddau Tân ac Achub De Cymru - 01443 232000 ffurflen gysylltu ar-lein