skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae bywyd modern yn dibynnu ar drydan, ond ychydig iawn o bobl sy’n stopio i ystyried pwysigrwydd diogelwch trydanol yn ein cartrefi.

Mae methu â sylwi ar bethau fel cysylltiadau trydan a chyfarpar trydanol diffygiol, neu orlwytho socedi trydanol, yn gallu achosi tân, anaf a hyd yn oed marwolaeth.

Sut i osgoi damweiniau trydanol

Mae damweiniau trydanol yn debycach o ddigwydd mewn llety sy’n hen neu o ansawdd gwael sy’n debycach o gynnwys gwifirad trydanol a chyfarpar diffygiol, a dim digon o socedi trydan.

Mae Electrical Safety First (Saesneg yn unig) yn rhoi gwybodaeth a chyngor arbenigol i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod sut i ddefnyddio trydan yn ddiogel. 

Defnyddiwch eu cyfrifiannell socedi (Saesneg yn unig) i wirio nad ydych chi’n gorlwytho’ch socedi drwy blygio gormod o gyfarpar i mewn i lidiau estyn.

Os arogleuwch losgi anesboniadwy, galwch y gwasanaeth tân ar unwaith. Mae ganddyn nhw offer i ganfod gwrthrychau trydanol sy’n gorgynhesu.

Blancedi trydanol

Mae blancedi trydanol diffygiol yn achosi llawer o danau angheuol ac anafiadau bob blwyddyn. Wrth iddi fynd yn hŷn, mae’n bosib y bydd blanced drydanol yn datblygu diffygion yn ei gwifriad. Efallai na fydd gan fodelau hŷn y system amddiffyn rhag gorgynhesu sy’n bresennol mewn blancedi mwy newydd.

Mae’n syniad da cael gwiriad o’ch blanced drydanol bob hydref cyn i chi ddechrau ei defnyddio. Holwch eich gwasanaeth tân lleol a ydyn nhw’n cynig gwiriadau rhad ac am ddim.

Mae Electrical Safety First wedi cynhyrchu rhestr o bethau i’w gwneud a pheidio â’u gwneud (Saesneg yn unig) mewn perthynas â blancedi trydanol.

Gwiriadau diogelwch trydanol

Os ydych chi’n rhentu’ch eiddo, o dan y gyfraith mae’n ofynnol i’ch landlord sicrhau bod cyfarpar trydanol a gwaith gosod trydanol (gwifriad, socedau, blwch ffiwsiau) yn ddiogel pan symudwch i mewn a’u bod yn parhau yn ddiogel.

O 1 Rhagfyr 2022 ymlaen, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i landlordiaid POB eiddo rhent - tai preifat a chymdeithasol – gynnal Adroddiad Cyflwr Gosod Trydanol pum mlynedd (EICR). Mae'n rhaid i'r profion hyn gael eu cynnal gan beiriannydd trydanol cymwys. 

Rhaid i unrhyw faterion a nodwyd gael eu trwsio o fewn saith diwrnod.

 

Dod o hyd i drydanwr cofrestredig

Peidiwch byth â cheisio  gwneud eich trwsiadau trydanol eich hun. Gallech chi fod yn eich rhoi eich hun a’u teulu mewn perygl.

Mae trydanwyr cofrestredig yn gweithio i safon ddiogelwch genedlaethol y Deyrnas Unedig (BS 7671) a byddant yn rhoi tystysgrif ddiogelwch i chi i gadarnhau bod eu gwaith wedi cael ei ddylunio, ei archwilio a’i brofi yn unol â’r safon honno. Maen nhw wedi cael eu hawdurdodi gan y llywodraeth i hunan-ardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu.

Gallwch chi ddod o hyd i drydanwr cofrestredig drwy chwilio’r gofrestr (Saesneg yn unig) o Bersonau Cymwys Cofrestredig Trydanol.

Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn cynnal gwiriadau diogelwch trydanol i bobl hŷn y bernir eu bod mewn risg.

Diweddariad diwethaf: 02/05/2023