skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Yn anffodus, mae risg llifogydd yn dod yn realiti i lawer o bobl ledled Cymru.

Os ydych chi’n byw mewn ardal sy’n agored i lifogydd a/neu mae’ch cartref wedi dioddef llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf, mae’n werth cymryd pa gamau rhagofal y gallwch chi i’w atal rhag digwydd eto neu, o leiaf, i leihau’r perygl i chi a’r difrod i’ch cartref.

Ydy’ch cartref chi mewn perygl oherwydd llifogydd?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi hysbysiadau a rhybuddion am berygl llifogydd o afonydd a’r môr.

  • Hysbysiadau llifogydd – pan fydd lligogydd yn bosibl a dylech chi fod yn barod i weithredu
  • Rhybuddion llifogydd – pan fydd disgwyl i ardal benodol ddioddef llifogydd a dylech weithredu ar unwaith

Os ydych chi’n byw mewn ardal sydd wedi dioddef llifogydd o’r blaen – neu sydd mewn perygl o lifogydd – efallai ei bod yn werth cofrestru ar wasanaeth rhybuddio am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru. Yna, os bydd y gwaethaf yn digwydd, bydd gennych chi amser i baratoi.

Cyngor llifogydd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi llunio cyngor cynhwysfawr iawn am beth i’w wneud cyn y llifogydd, yn ystod y llifogydd ac ar ôl y llifogydd ar ei wefan.

Yn achos llifogydd, trowch y nwy, trydan a’r dŵr i ffwrdd wrth y prif gyflenwad. Peidiwch ag yfed dŵr o’r tap os oes unrhyw bosibilrwydd y gall fod wedi ei lygru gan y llifddŵr neu gan garthion.

Diweddariad diwethaf: 27/02/2023