Mae imiwneiddio yn chwarae rôl hanfodol mewn atal atgyfodiad llawer o glefydau a oedd yn arfer lladd.
Mae imiwneiddio yn cyfeirio’n syml at y broses o roi brechiad i rywun a hwythau’n dod yn imiwn i’r clefyd o ganlyniad i’r brechiad hwnnw. Mae’n defnyddio mecanwaith amddiffyn naturiol y corff i fagu ymwrthedd i heintiau penodol, e.e. y pas neu’r frech goch.
Mae pandemig y coronafeirws (COVID 19) wedi ysgogi Sefydliad Iechyd y Byd i wneud sylw: ‘Mae brechlynnau COVID-19 yn darparu amddiffyniad cryf rhag salwch difrifol, mynd i’r ysbyty a marwolaeth. Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd y bydd cael eich brechu yn ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn trosglwyddo’r firws i eraill, sy’n golygu bod eich penderfyniad i gael y brechlyn hefyd yn diogelu’r rhai o’ch cwmpas'.
Mae imiwneiddio eang yn helpu i ddifa clefydau a thrwy hynny yn amddiffyn mwy o bobl.
Mae imiwneiddio yn arbennig o bwysig ar gyfer babanod a phlant ifanc am fod eu system imiwnedd yn dal i fod yn anaeddfed, felly maent yn fwy agored i heintiau a chymhlethdodau difrifol. Dyna pam mae babanod yn derbyn cynifer o frechiadau ym misoedd cyntaf eu bywydau.
Mae brechiadau’n cael eu rhoi fel arfer drwy gyfrwng pigiad neu ddiferion yn y geg. Does dim tâl am frechiadau sy’n rhan o’r drefn; fodd bynnag, os ydych yn teithio i wlad lle mae brechiadau ychwanegol yn cael eu hargymell, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu.
Pam mae’n bwysig brechu eich plentyn
Nid yw’r un rhiant yn hoffi gweld eu baban neu eu plentyn mewn trallod pan fyddant yn derbyn pigiad, ond dim ond eiliad y bydd brechiadau’n cymryd ac maent yn gyflym, yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae rhai plant yn teimlo rhywfaint o anghysur yn syth wedi hynny, ond mae sgil-effeithiau difrifol yn brin iawn.
Os oes gennych chi amheuon am frechu eich plentyn, cofiwch:
- Nad yw clefydau fel y frech goch, clwy’r pennau, y pas a pholio wedi cael eu dileu.
- Mae’r clefydau mae brechiadau yn eu herbyn yn llawer gwaeth nag unrhyw sgil-effaith bosibl o’r brechlyn.
- Ar ôl i blentyn gael ei frechu, bydd ei gorff yn gallu ymladd y clefyd yn fwy effeithiol os byddant yn ei ddal.
- Drwy frechu’ch plentyn, rydych yn lleihau’r siawns y bydd achosion yn codi ac yn helpu plant eraill.
- Mae imiwneiddio yn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol drwy leihau ac mewn rhai achosion dileu clefyd, e.e. y frech wen.
- Gallwch achub bywyd eich plentyn drwy wneud yn siŵr ei fod yn derbyn ei holl frechiadau.
Am fwy o wybodaeth am imiwneiddio a’r holl frechiadau sy’n cael eu hargymell, ewch i GIG 111 Cymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhestru’r holl frechiadau (Saesneg yn unig) gall eich plentyn ddisgwyl iddynt gael eu cynnig hyd at 16 oed.
Brechiadau ar gyfer teithio
Mae brechu fel rhan o’r drefn yn amddiffyn yn erbyn clefydau difrifol yma yn y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n bwriadu teithio tramor gyda’ch plentyn, mae’n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol arno i’w amddiffyn rhag clefydau heintus nad ydynt yn cael eu gweld yma, e.e. y dwymyn felen neu falaria.
Dylai’r mwyafrif o frechiadau gael eu rhoi o leiaf mis cyn teithio felly gadewch ddigon o amser i’ch plentyn dderbyn yr holl frechiadau mae arno eu hangen. Holwch eich meddyg teulu os ydych yn ansicr am frechu.
Am ragor o wybodaeth am frechiadau ar gyfer teithio, ewch i GIG Cymru (Saesneg yn unig). Hefyd mae gan Fit for Travel (Saesneg yn unig) gyngor manwl am frechiadau i bawb sy’n teithio.