Mae plant yn cwrdd â dieithriaid drwy gydol eu plentyndod mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Mae’r mwyafrif o ddieithriaid mae plant yn cwrdd â nhw yn bobl garedig, ofalgar, ond nid bob tro. Mae’n bwysig i rieni siarad yn agored â’u plant am ddieithriaid ac esbonio beth i’w wneud os byddan nhw’n poeni.
Diffinio dieithriaid
Mae dieithriaid yn bobl nad yw plant neu deuluoedd yn eu hadnabod yn dda iawn neu ddim yn eu hadnabod o gwbl. Mae’n anodd dweud a ydy dieithryn yn berson da neu beidio dim ond drwy edrych arnyn nhw, yn arbennig i blant. Yn aml mae cartwnau’n portreadu pobl ddrwg fel pobl sy’n edrych yn frawychus ac yn hyll, ond mae angen i’ch plentyn wybod nad felly fydd hi o reidrwydd yn y byd go iawn.
Pobl sy’n helpu
Nid yw pob dieithryn yn berson drwg, ac mae’n bwysig pwysleisio hyn wrth addysgu’ch plentyn am ddieithriaid. Mae heddweision ac ymladdwyr tân yn enghreifftiau o ddieithriaid da, cymwynasgar, sydd hawdd i blant eu hadnabod oherwydd eu gwisg. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol cyfeirio at ddieithriaid sydd â’r dasg o helpu pobl eraill, e.e. cynorthwyydd mewn siop neu staff derbynfa swyddfa.
Bydd annog plant i fynd at y dieithriaid penodol hyn os byddan nhw byth yn bryderus yn eu helpu i ddelio ag unrhyw sefyllfaoedd anodd a allai godi yn y dyfodol. Bydd rhoi rheolau clir i’ch plentyn am beth i’w wneud os cewch chi’ch gwahanu mewn man cyhoeddus hefyd yn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus mewn sefyllfa frawychus.
Sut i adnabod sefyllfa ddyrys
Ffordd dda o helpu’ch plentyn i adnabod sefyllfa ddyrys yw dysgu iddo/iddi i fod yn wyliadwrus o rai sefyllfaoedd arbennig. Bydd hyn nid yn unig yn ei helpu i ddelio â dieithriaid ond hefyd â’r bobl hynny mae’n eu hadnabod yn barod, ond sydd â bwriadau drwg o bosibl. Helpwch eich plentyn drwy siarad ymlaen llaw am sefyllfaoedd mewn ffordd ddamcaniaethol gan fod hynny’n gallu meithrin ei hyder i adnabod sefyllfaoedd dyrys a theimlo’n hyderus i gymryd camau. Dyma rai senarios defnyddiol i’w trafod:
- mae dieithryn yn stopio’ch plentyn ac yn gofyn a oes eisiau lifft adref ar eich plentyn
- mae menyw sy’n byw yn eich stryd, ond nad ydy’ch plentyn chi erioed wedi torri gair â hi, yn gwahodd eich plentyn i mewn i’w thŷ am fyrbryd
- mae dieithryn â golwg neis yn agosáu at eich plentyn yn y parc ac yn gofyn am help i ddod o hyd i gi coll y dieithryn
- mae’ch plentyn yn credu ei fod/ei bod yn cael ei d/dilyn
- mae oedolyn mae’ch plentyn chi’n ei adnabod yn dweud rhywbeth sy’n gwneud iddo/iddi deimlo’n anghysurus
Cynllun i’w ddilyn
Bydd cynllunio am sefyllfaoedd dyrys yn helpu’ch plentyn i adnabod un ac i deimlo’n hyderus am gymryd camau. Atgoffwch nhw ei bod yn iawn ei blentyn ddweud ‘na’ wrth oedolyn a cherdded i ffwrdd.
Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol ymarfer ‘No, Go, Yell, Tell’ gyda’r senarios uchod, h.y. dweud wrth eich plentyn i ddweud ‘na’, rhedeg i ffwrdd o’r person, gweiddi mor uchel â phosibl a dweud wrth oedolyn maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw ar unwaith.
Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod ei bod bob amser yn iawn i ddweud wrth oedolyn mae’n ymddiried ynddyn nhw beth ddigwyddodd, dim ots beth ddwedodd dieithryn wrthyn nhw.
Mae’n bwysig bod eich plentyn yn gwybod sut i adnabod a delio â sefyllfaoedd dyrys gyda dieithriaid; ond wrth siarad am ddieithriaid, cofiwch, er gwaetha’r ymdriniaeth iasol yn y cyfryngau, fod herwgydio gan ddieithriaid yn beth hynod o brin.
Mwy o wybodaeth
Bydd Staying safe away from home (Saesneg yn unig) yr NSPCC yn eich helpu i ddysgu’r plentyn i gadw’n ddiogel pan fydd i ffwrdd oddi wrthych chi.
Mae Think U Know (Saesneg yn unig) yn dangos i blant 4 -7 oed sut i aros yn ddiogel ar-lein.