Edrych ar ôl eich plentyn eich hun yw’r peth mwyaf naturiol yn y byd, felly pan fydd gan eich plentyn anabledd neu anghenion arbennig efallai na fyddwch chi’n awtomatig yn meddwl amdanoch eich hun fel eu gofalwr.
Er ei bod efallai’n anodd, os gallwch chi dderbyn eich rôl fel ‘gofalwr’ eich plentyn ochr yn ochr â’ch rôl fel mam neu dad iddyn nhw, bydd gennych chi hawliau cyfreithiol ychwanegol a fydd yn eich helpu i gael y cymorth mae arnoch chi ei angen.
Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol gynnig cyngor i chi a, wasanaethau cymorth ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd.
Asesiad anghenion gofalwr
Fel gofalwr eich plentyn mae gennych chi hawl i asesiad anghenion gofalwr i ddarganfod beth sy’n bwysig i chi a sut allwch chi gael eich cefnogi i ddiwallu’ch anghenion llesiant eich hun.
Er enghraifft, os ydych chi’n colli cwsg yn rheolaidd, efallai bod arnoch chi angen noson neu benwythnos achlysurol o seibiant. Neu efallai eich bod chi wedi aros gartref am nifer o flynyddoedd ond erbyn hyn yn dymuno dychwelyd i’r gwaith.
Taliadau Uniongyrchol
Os ydych chi’n rhiant i blentyn ag anghenion gofal a chymorth sy’n cael eu diwallu gan eich cyngor lleol, gallwch chi ddewis derbyn taliadau uniongyrchol a’u rheoli ar ran eich plentyn.
Pontio
Diben cynllunio cyfnod pontio yw helpu’ch plentyn anabl i gynllunio ymlaen llaw er mwyn iddynt dderbyn cymorth i fyw y bywyd maen nhw ei eisiau, gan gynnwys beth maen nhw efallai eisiau ei astudio, pa swydd allen nhw ei gwneud a ble maen nhw eisiau byw.
Mae cynllunio pontio yn dechrau pan fydd eich plentyn yn rhyw 13 oed ac mae’n parhau am nifer o flynyddoedd nes bod eich plentyn yn oedolyn.
Buddion ariannol ac eraill
Yn dibynnu ar anabledd eich plentyn, efallai bod gennych chi hawl i dderbyn budd-daliadau fel y Lwfans Byw i’r Anabl (i blant) (Saesneg yn unig) a Chredyd Treth Plant (Saesneg yn unig) ychwanegol hefyd.
Mae llawer o elusennau yn helpu plant anabl i fynd ar wyliau, prynu cyfrifiaduron neu fwynhau dyddiau gwych allan. Dysgwch ba help sydd ar gael (Saesneg yn unig).
Gwiriwch eich bod yn derbyn y swm cywir o Gredyd Cynhwysol (sydd yn disodli Budd-dâl Tai) (Saesneg yn unig) a Gostyngiad y Dreth Gyngor (Saesneg yn unig) gan fod y rhain yn amrywio os oes gennych chi un neu fwy o blant sy’n cael y Lwfans Byw i’r Anabl neu os na all eich plant rannu ystafell oherwydd anabledd.
Cynllun y Bathodyn Glas
Yn dibynnu ar anabledd eich plentyn, efallai bod gennych chi hawl i Fathodyn Glas (Saesneg yn unig).
Hawl awtomatig: plant dros ddwy flwydd oed sy’n derbyn cyfradd uwch cydran symudedd y Lwfans (gweler uchod) neu y mae ganddyn nhw nam difrifol ar eu golwg.
Gallwch chi fod yn gymwys hefyd os yw’ch plentyn chi o dan dair oed, ac:
- mae angen i chi gludo offer meddygol swmpus
- mae angen i’r plentyn fod yn agos at (neu deithio’n gyflym i) offer achub bywyd
Ym mis Awst 2019, estynnwyd y cynllun Bathodyn Glas i gynnwys pobl ag ‘anableddau cudd’ fel awtistiaeth ac anableddau dysgu.
Gwnewch gais yn uniongyrchol i'ch cyngor lleol.
Cyfuno gwaith a gofalu
Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol gynnig cyngor ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys gofal plant.
Mae Working Families (Saesneg yn unig) hefyd yn cynnig cymorth a chyngor am ofal plant a materion eraill.
Cwrdd â rhieni eraill
Mae gan lawer o elusennau cenedlaethol grwpiau lleol lle mae rhieni a theuluoedd plant ag anableddau penodol gynnig cyngor, rhannu profiadau a hyd yn oed cwrdd am weithgareddau hamdden a dyddiau allan.
Mae gan Gyswllt Teulu Cymru (Saesneg yn unig) gronfa ddata gynhwysfawr o elusennau sy’n cefnogi plant anabl. Mae Cronfa’r Teulu (Saesneg yn unig) hefyd yn rhoi grantiau disgresiynol i deuluoedd â phlant difrifol anabl o dan 18 oed.
Cymorth ar gyfer eich plant eraill
Mae bywyd yn gallu bod yn anodd i frodyr a chwiorydd plentyn anabl, sydd efallai’n ysu weithiau am fywyd cyffredin fel eu ffrindiau. Yn dibynnu ar oedran y plentyn, efallai nad ydyn nhw’n deall anghenion eu brawd neu chwaer yn iawn, neu pam maen nhw’n methu chwarae neu wneud yr un pethau â phlant eraill.
Fforwm ar-lein yw Young Sibs (Saesneg yn unig) lle mae plant a phobl ifanc sydd â brawd neu chwaer anabl yn gallu sgwrsio â’i gilydd am eu bywydau a’u diddordebau.
Gofalwyr ifanc
Mae plant a phobl ifanc yn chwarae rôl fawr ym mywydau eu brodyr a chwiorydd anabl, wrth siarad a chwarae gyda nhw, ac yn aml eu helpu i ddatblygu sgiliau newydd.
Pan fydd plant yn cyflawni tasgau gofalu a domestig sylweddol, maen nhw’n cael eu hystyried yn ofalwyr ifanc. Mae gan ofalwyr ifanc hawl i’w hasesiad anghenion gofalwr eu hun sy’n ystyried eu hanghenion eu hunain, yn arbennig eu hanghenion addysgol a’u dyheadau tymor hir.