Os ydych chi o oedran gweithio, mae’n eithaf tebygol eich bod chi’n cydbwyso’ch rôl ofalu â chyflogaeth am dâl neu hunangyflogaeth - ac ymrwymiadau teuluol eraill yn fwy na thebyg.
Mae rhoi’r gorau i’ch swydd i ofalu am rywun yn benderfyniad anferth – ac yn un na ddylech chi ruthro i’w wneud yn nyddiau cynnar gofalu.
Hyd yn oed os ydych chi wedi ymddeol neu’n gallu fforddio peidio â gweithio, efallai ei bod yn well gennych chi gyfuno’ch dyletswyddau gofalu â gyrfa, neu swydd amser llawn neu ran-amser, am eich bod chi’n ei mwynhau.
Eich hawl i weithio
Mae’n bwysig nad ydych chi’n teimlo dan bwysau i roi’r gorau i’ch swydd wrth ddod yn ofalwr neu pan fydd eich cyfrifoldebau gofalu yn cynyddu.
Yn ogystal, mae’r gyfraith ar eich ochr chi – mae gan ofalwyr yr hawl gyfreithiol i weithio os byddan nhw’n dymuno ac mae’n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu dyletswyddau gofalu.
Rhoi’r gorau i waith
Os gallwch chi fforddio rhoi’r gorau i waith - neu efallai ymddeol yn gynnar - efallai y credwch chi mai dyna’r peth gorau i’w wneud. Eich penderfyniad chi yw hwn, ond cymerwch yr amser i bwyso a mesur manteision ac anfanteision gwneud hynny.
Byddwch chi nid yn unig yn colli incwm rheolaidd (a chyfraniadau at eich pensiwn yn y dyfodol), ond ni fyddwch yn rhan o ochr gymdeithasol gwaith ychwaith.
Ar ôl i chi ymadael â phroffesiwn neu swydd rydych chi’n ei mwynhau, mae’n gallu bod yn anodd mynd yn ôl i mewn i waith, yn arbennig os ydych chi wedi bod allan o waith am gryn amser neu’n agosáu at oedran ymddeol.
Cymorth gartref
Os ydych chi’n ei chael yn anodd gweithio ac edrych ar ôl rhywun, mynnwch wybod a oes cymorth – neu gymorth ychwanegol – ar gael i chi o’r gwasanaethau cymdeithasol. Os cafodd asesiad y person arall ei gynnal cryn amser yn ôl – efallai pan oeddech chi’n gallu eu gadael ar eu pen eu hun – gofynnwch am ailasesiad o’u hanghenion.
Os nad ydych chi wedi cael un yn barod, gofynnwch i’ch cyngor lleol am asesiad anghenion gofalwr. Os ydych chi eisiau parhau i weithio neu ddychwelyd i’r gwaith, mae’n bwysig gwneud eich dymuniadau’n glir i’r gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol sy’n cynnal eich asesiad.
Dychwelyd i’r gwaith
Pan ddaethoch chi’n ofalwr i ddechrau, efallai eich bod wedi meddwl mai rhoi’r gorau i’ch swydd oedd yr unig opsiwn. Os ydych chi’n difaru’r penderfyniad hwn erbyn hyn, peidiwch â digalonni.
Gofynnwch i’ch cyngor lleol am asesiad anghenion gofalwr a dwedwch wrth y gweithiwr cymdeithasol neu’r gweithiwr proffesiynol arall eich bod chi’n bwriadu dychwelyd i’r gwaith ac yn methu parhau yn eich rôl ofalu.
Mae mynd yn ôl i’r gwaith yn newid arwyddocaol yn eich amgylchiadau, sydd yn ei dro yn gosod dyletswydd ar y cyngor lleol i ail-asesu anghenion gofal a chymorth y person arall.
Mwy o wybodaeth
Mae Carers UK (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor i ofalwyr sy’n dymuno cyfuno gwaith a gofalu.
Bydd cwrs ar-lein rhad ac am ddim Gofalwyr Cymru – Dysgu i Fyw (Saesneg yn unig) – yn eich helpu i nodi a chyfleu’r sgiliau sy’n aml yn cael eu tanbrisio y byddwch wedi’u hennill o’ch profiad o ofalu.