Does dim dwywaith bod gofalu am rywun rydych chi’n eu caru yn un o’r pethau mwyaf boddhaol gall neb ei wneud – ac yn hynod o lafurus hefyd, yn gorfforol ac yn emosiynol.
Ni waeth faint rydych chi eisiau cario ymlaen i edrych ar ôl rhywun, weithiau daw amser pan nad dyna’r peth priodol neu synhwyrol i’w wneud.
Efallai bod anghenion cymorth y person arall yn cynyddu, er enghraifft, mae eu dementia yn gwaethygu neu mae gofalu amdanyn nhw’n fwy o her yn gorfforol. Neu efallai eich iechyd chi sy’n dioddef o ganlyniad i alwadau gofalu.
Efallai eich bod chi hyd yn oed wedi cymryd seibiant gyrfa ond angen dychwelyd i’r gwaith nawr am resymau ariannol a phroffesiynol.
Cydnabyddiaeth gyfreithiol o hawl gofalwr i roi’r gorau i ofalu
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn dweud wrth gynghorau lleol am beidio â rhagdybio bod y gofalwyr yn abl na/neu’n fodlon parhau i ddarparu gofal i rywun.
Mae’r gyfraith yn dweud os rhowch chi wybod i’r cyngor lleol eich bod yn methu neu’n anfodlon parhau i ofalu am rywun, rhaid i’r cyngor ail-asesu angen y person arall am ofal a chymorth.
Fel gofalwr y person arall, mae’n debyg eich bod chi’n bodloni llawer o’u hanghenion cymorth, sy’n golygu bod lefel y gofal maen nhw’n ei derbyn oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol yn debygol o godi nawr (yn ddarostyngedig i asesiad [neu ailasesiad] o’u hanghenion).
Nid ydych yn gadael neb i lawr
Ni ddylech chi deimlo eich bod yn gadael neb i lawr.
Wrth i chi ysgwyddo’ch rôl ofalu i ddechrau, yn fwy na thebyg nid oedd unrhyw syniad gennych faint fyddai’ch cyfrifoldebau yn para neu sut byddan nhw’n effeithio ar eich bywyd chi.
Rydych chi wedi gwneud cyfraniad positif anferth tuag at fywyd y person arall ac wedi eu helpu i fyw yn annibynnol mor hir â phosibl.
Nawr y peth pwysig yw gwneud yn siŵr eu bod yn byw yn y lle cywir ac y byddan nhw’n derbyn yr holl ofal a chymorth mae arnyn nhw eu hangen.
Cael eich bywyd chi’n ôl ar y cledrau
Mae llawer o ofalwyr yn dweud eu bod yn teimlo ar goll pan fydd eu rôl ofalu yn dod i ben felly byddwch yn garedig wrth eich hun a chymerwch amser i benderfynu beth rydych chi am ei wneud nesaf.
Mae Fforwm Carers UK yn annog cyn ofalwyr (Saesneg yn unig) i gefnogi ei gilydd ar-lein.