skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ni waeth pa mor anodd yw hi i ddychmygu (neu dderbyn), mae’n debygol y daw eich rôl ofalu un ben un diwrnod.

Gallai hyn fod am un o amryw o resymau:

Os ydych chi wedi bod yn gofalu am gyfnod hir, mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i’w wneud – neu sut i deimlo – pan ddaw eich cyfrifoldebau gofalu i ben, yn arbennig os ydych chi’n galaru hefyd.

Cymorth emosiynol

Peidiwch byth â bychanu’r effaith emosiynol y gall rôl ofalu ei chael ar eich bywyd. A phan ddaw’r gofalu i ben – am ba reswm bynnag – mae’n gallu’ch gadael yn teimlo fel petai’ch holl fywyd wedi colli ei ffordd. Mae rhai gofalwyr yn teimlo ymdeimlad o ryddhad pan ddaw’r gofalu i ben, tra bod eraill efallai’n teimlo euogrwydd ac y gallan nhw fod wedi gwneud mwy.

Os ydych chi wedi gadael swydd neu yrfa, neu wedi esgeuluso perthnasau eraill, mae’n gallu bod yn anodd cael eich bywyd chi’n ôl ar y cledrau – yn arbennig os ydych chi’n teimlo’n flinedig, yn wag neu’n isel. Efallai eich bod chi’n teimlo ar goll a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf.

Mae pawb yn wahanol ac nid oes unrhyw ffordd gywir neu anghywir i deimlo. Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt, efallai rhywun rydych chi wedi cwrdd â nhw mewn canolfan gofalwyr neu grŵp cymorth. Arhoswch ychydig cyn gwneud unrhyw benderfyniadau mawr.

Os nad yw hynny’n helpu, efallai ei bod hi’n werth chwilio am gymorth proffesiynol.

Ystyriaethau ymarferol

Mae’n debygol y bydd diwedd eich cyfrifoldebau gofalu yn un o lawer o newidiadau yn eich bywyd, rhai’n annisgwyl neu’n ddieisiau.

Mae’n bosib y bydd eich sefyllfa ariannol yn newid, yn arbennig os oeddech chi’n derbyn Lwfans Gofalwr neu fudd-daliadau eraill ar gyfer gofalwyr.

Cofiwch fod Atwrneiaeth Arhosol yn dod i ben pan fydd rhywun yn marw felly ni allwch chi gynnal busnes ar ran y person ymadawedig ragor.

Os symudoch chi i mewn gyda’r person sy’n derbyn gofal, efallai y byddwch chi mewn sefyllfa’n sydyn pan mae’n rhaid i chi ddod o hyd i gartref newydd. Neu efallai yr hoffech chi symud i rywle sy’n fwy addas i’ch anghenion eich hun.

Os gadawoch chi’r gwaith er mwyn canolbwyntio ar gyfrifoldebau gofalu efallai y byddwch chi’n ystyried dychwelyd i’r gwaith neu ailhyfforddi neu o bosib gwneud tipyn o wirfoddoli.

Eich anghenion cymorth newidiol

Weithiau bydd dau berson ag anghenion gofal a chymorth gwahanol yn llwyddo i fyw yn annibynnol gartref am eu bod nhw’n edrych ar ôl ei gilydd. Yn ei hanfod, mae’r ddau wedi dod yn ofalwr dros y llall.

Os oeddech chi yn y sefyllfa hon, efallai bod y gofal roeddech chi’n ei dderbyn gan y person arall wedi cael ei gymryd i ystyriaeth adeg cytuno’ch cynllun gofal eich hun.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofyn am gael ailasesiad o’ch anghenion chi.

Diweddariad diwethaf: 09/01/2023