skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar gynghorau lleol a byrddau iechyd i hyrwyddo llesiant unigolyn. Mae hyn yn cynnwys plant, oedolion ag anghenion gofal a chymorth, a’u gofalwyr.

Mae’r gyfraith yn rhoi cydnabyddiaeth briodol i ofalwyr ac yn ei gwneud hi’n ofynnol eu bod yn derbyn cymorth ymarferol ac emosiynol i fyw bywyd mor normal â phosibl.

Cefndir

Daeth y Ddeddf i rym ar 6 Ebrill, 2016 ac mae’n uno llawer o’r ddeddfwriaeth flaenorol mewn perthynas â gofalwyr:

  • Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995
  • Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000
  • Deddf Gofalwyr (Cyfleoedd Cyfartal) 2004
  • Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010

Effaith y gyfraith newydd i ofalwyr

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn diffinio gofalwr fel ‘person sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu i blentyn anabl’.

Y newid mawr yw nad oes rhaid i chi fod yn darparu ‘swm sylweddol o ofal ar sail reolaidd’ bellach i gael eich cydnabod yn ofalwr i rywun.

Mae’r gyfraith newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar bobl yn gwneud penderfyniadau am – ac yn cymryd cyfrifoldeb dros – eu llesiant eu hun.

Bydd gan ofalwyr yr un hawl i asesiad cymorth â’r person maen nhw’n gofalu amdanynt. Hefyd bydd ganddyn nhw fwy o lais am ba gymorth mae arnyn nhw ei angen ac o ble daw’r cymorth hwnnw.

Os nad ydych chi’n abl neu’n fodlon parhau i ofalu

Ni ddylai neb deimlo dan bwysau i edrych ar ôl rhywun neu barhau i edrych ar ôl rhywun.

Mae’r Ddeddf newydd yn dweud bod rhaid i gynghorau lleol beidio â rhagdybio bod y gofalwyr yn abl na/neu’n fodlon parhau i ddarparu gofal.

Deddf Cydraddoldebau 2010

Mae’r gyfraith hon yn ei gwneud yn anghyfreithlon i rywun ddioddef gwahaniaethu yn eu herbyn neu gael eu trin yn anffafriol am eu bod yn edrych ar ôl rhywun sy’n oedrannus neu’n anabl.

Mae Cyngor ar Bopeth wedi cyhoeddi llyfryn, ‘Equality Act 2010: What do I need to know as a carer?'

Diweddariad diwethaf: 22/02/2023