Bydd gofalwyr yn teimlo’n aml nad oes ganddyn nhw unrhyw opsiwn ond i roi’r gorau i weithio ac ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu amser llawn.
Gall hyn ddigwydd pan fyddwch chi’n wynebu argyfwng sydyn, sydd wedi eich gadael chi’n teimlo’n flin, yn gorfforol ac yn feddyliol. Efallai mai rhoi’r gorau i’r gwaith yw’r peth amlwg i’w wneud achos mae’n golygu y gallwch chi ganolbwyntio’n llawn ar edrych ar ôl y person arall.
Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i’ch swydd
Efallai nad yw’n teimlo felly bob tro, ond ceisiwch gofio bod gennych chi ddewis am barhau i weithio neu beidio.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar gynghorau lleol i ystyried anghenion cymorth gofalwr sy’n oedolyn.
Mae hyn yn cynnwys darganfod a ydych chi’n abl ac yn fodlon parhau yn eich rôl ofalu, ac yn bwysig, a ydych chi’n dymuno gweithio neu barhau i weithio.
Gofynnwch am asesiad anghenion gofalwr a gwnewch chi’n glir eich bod yn bwriadu cyfuno’ch cyfrifoldebau gofalu â’ch swydd chi.
Cymryd seibiant gyrfa
Yn hytrach na rhoi’r gorau i waith yn gyfan gwbl, efallai ei bod hi’n werth gofyn i’ch cyflogwr a fyddant yn fodlon ystyried gadael i chi gymryd seibiant gyrfa.
Byddai hyn yn gadael i chi ganolbwyntio ar eich cyfrifoldebau gofalu – efallai sefydlu trefniadau tymor hwy neu ofalu am rywun ger diwedd eu hoes – ar yr un pryd â gwybod bod gennych chi swydd i ddychwelyd i chi.
Os ydych chi’n cymryd seibiant gyrfa heb dâl, efallai bod gennych chi hawl i wneud cais am Lwfans Gofalwr tra na fyddwch chi’n gweithio.
Os penderfynwch roi’r gorau i’ch swydd
Hyd yn oed os penderfynwch roi’r gorau i weithio, nid yw’n rhesymol disgwyl i chi ofalu am rywun heb gymorth.
Os nad yw’r person arall yn derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol yn barod, cysylltwch â’ch cyngor lleol a threfnwch iddynt gael asesiad o’u hangen am ofal a chymorth. Os ydyn nhw’n derbyn cymorth, ond wedi dod yn fwy dibynnol arnoch chi dros amser, gofynnwch am ailasesiad o’u hanghenion.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd amser i fwrdd o’ch rôl ofalu yn rheolaidd ac yn edrych ar ôl eich iechyd a’ch llesiant eich hun.
Cofiwch, os nad ydych chi’n gweithio, gallwch chi hawlio Lwfans Gofalwr ac o bosibl cymorth ariannol arall.