skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ni ddylai edrych ar ôl rhywun arall olygu eich bod chi’n esgeuluso’ch iechyd a’ch anghenion llesiant eich hun.

Mae tystiolaeth bod gofalwyr yn aml yn esgeuluso eu hanghenion iechyd eich hun oherwydd diffyg amser – byddan nhw efallai’n anwybyddu arwyddion bod rhywbeth o’i le a cholli gwiriadau iechyd ac apwyntiadau meddygol.

Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun arall, mae’n bwysig eich bod chi’n iach – yn gorfforol ac yn emosiynol – ac i chi gael cymorth hefyd.

Asesiad anghenion gofalwr

Erbyn hyn mae’r gyfraith yn cydnabod bod gan ofalwyr eu hanghenion cymorth eu hunain a bod ganddyn nhw hawl i asesiad o’r anghenion hynny.

Eich asesiad anghenion gofalwr yw’ch cyfle i ddweud pa gymorth a gofal rydych chi’n fodlon eu rhoi, a pha help mae arnoch chi ei angen i sicrhau’ch llesiant eich hun.

Er enghraifft, efallai y dymunwch gyfuno’ch cyfrifoldebau gofalu â chyflogaeth am dâl, ymarfer yn rheolaidd neu ddychwelyd i addysg

Efallai bod eisiau seibiant byr arnoch chi i ddarllen llyfr, mynd i gêm bêl-droed neu fwynhau ffilm.

Eich iechyd corfforol

Gall gofalu gael effeithiau sylweddol ar eich iechyd; er enghraifft, mae gofalwyr mewn risg arbennig o broblemau cefn.

Gwnewch ymdrech i fynychu gwiriadau iechyd a meddygol rheolaidd er mwyn i unrhyw faterion iechyd gael eu datrys yn gynnar.

Os na allwch chi adael y person rydych chi’n gofalu amdanynt, gallwch chi ofyn am ofal seibiant i fynychu apwyntiadau meddygol.

Gwnewch yn siŵr fod eich meddyg teulu yn gwybod eich bod chi’n ofalwr a gofynnwch i hynny gael ei nodi ar eich cofnodion meddygol. Bydd hyn efallai o gymorth gyda threfnu apwyntiadau’n hyblyg ac ati. Os ydych chi’n gofalu am rywun sy’n gaeth i’r tŷ, gallwch chi ofyn am ymweliad cartref. Hefyd bydd gennych chi hawl i bigiad ffliw blynyddol am ddim.

Mae gan Carers UK (Saesneg yn unig) gyngor iechyd a maethiad da ar gyfer gofalwyr.

Eich llesiant emosiynol

Mae edrych ar ôl rydych chi’n eu caru yn gallu bod yn foddhaol iawn – ond mae’n gallu bod yn heriol, yn llafurus a pheri unigedd hefyd.

Os ydy’ch cyfrifoldebau gofalu yn gwneud i chi deimlo’n isel, dan straen, neu mewn panic, mae’n bwysig chwilio am help. Rhaid i’r cyngor lleol beidio â rhagdybio eich bod chi’n abl na/neu’n fodlon parhau i ofalu am y person arall.

Efallai y dymunwch chi barhau i ofalu ond yn cydnabod bod angen mwy o gymorth arnoch chi. Os nad ydych chi wedi cael cynnig asesiad anghenion gofalwr yn barod, gofynnwch am un. Os oes gennych chi gynllun cymorth ond ti angen mwy o amser i ffwrdd o ofalu, gofynnwch am ailasesiad o’ch anghenion.

Perthnasau

Mae gofalu am rywun yn gallu effeithio’n andwyol ar y perthnasau eraill yn eich bywyd – â’ch cymar, aelodau eraill y teulu a chylchoedd cymdeithasol ehangach. Mae Carers UK (Saesneg yn unig) yn edrych ar sut mae perthnasau yn gallu newid o ganlyniad i ofalu.

Cymorth gan ofalwyr eraill

Nid oes neb yn deall pa mor straenus y gall rôl ofalu fod yn fwy na chyd-ofalwr. Dysgwch a oes grŵp cymorth gofalwyr neu ganolfan ofalwyr yn eich ardal chi.

Os ydy hi’n anodd i chi gyrraedd grŵp cymorth, mae Carers Trust (Saesneg yn unig) yn cynnal byrddau trafod ar-lein, sgwrsio byw, grŵp nosweithiau Mercher a hyd yn oed ‘e-levenses’ misol.

Diweddariad diwethaf: 09/02/2023