skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Fel llawer o ofalwyr, efallai nad oedd gennych chi unrhyw brofiad o iechyd neu ofal cymdeithasol pan ddechreuoch chi edrych ar ôl rhywun.

Yn nyddiau cynnar gofalu efallai nad oedd angen unrhyw sgiliau arbennig arnoch chi hyd yn oed, yn arbennig os ydych chi ond yn cadw llygad ar berthynas oedrannus neu’n helpu rhywun i ymolchi, gwisgo neu baratoi prydau bwyd syml.

Ond wrth i amser fynd heibio, yn aml mae gofalwyr yn cael eu bod yn ymgymryd mwy a mwy o dasgau sy’n galw am fwy nag ymwybyddiaeth annelwig o faterion meddygol neu ofal cymdeithasol.

Hyfforddiant ymarferol

Y peth pwysig i’w ofyn i’ch hun yw beth allwch chi ei wneud yn barod a beth ydych chi’n credu bod arnoch chi angen hyfforddiant ynddo?

Efallai bod angen hyfforddiant ymarferol arnoch chi i ddefnyddio offer arbenigol fel teclyn codi neu i ofalu am rywun â doluriau gwely neu sy’n defnyddio ocsigen, neu offer meddygol arall.

Os yw’r person sy’n derbyn gofal wedi cael offer arbenigol, er enghraifft, teclyn codi neu lifft grisiau, bydd eu therapydd galwedigaethol yn dangos i chi sut i’w ddefnyddio. Os oes gennych chi amheuon am unrhyw beth, holwch.

Os oes gennych chi larwm cymunedol neu synwyryddion wedi eu gosod yn eich cartref, bydd y Therapydd yn esbonio sut i ddefnyddio popeth.

Yn yr un modd, os ydych chi’n cyflawni tasgau nyrsio, er enghraifft, newid gorchudd ar glwyf, yn gweinyddu ocsigen neu’n bwydo rhywun drwy diwb, bydd y nyrs gymunedol yn cymryd amser i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall yn union beth i’w wneud. Peidiwch ag ofni gofyn cwestiynau.

Yn ardaloedd rhai awdurdodau lleol, mae gofalwyr yn cael eu hannog i fynychu cyrsiau rhad ac am ddim, er enghraifft:

  • ymwybyddiaeth cymorth cyntaf
  • gofal sylfaenol meddyginiaethau
  • codi a chario
  • rheoli ymddygiad heriol

Edrych ar ôl rhywun ag anhwylder tymor hir

Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun ag anhwylder tymor hir, efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn mynychu cwrs o’r enw Looking After Me.

Hyfforddiant arall

Nid yw’r holl hyfforddiant yn canolbwyntio ar y person sy’n derbyn gofal – mae yr un mor bwysig eich bod chi’n teimlo’n hyderus ac yn gallu edrych ar ôl rhywun yn emosiynol.

Gall hyfforddiant nad yw’n ymarferol gynnwys:

  • hawliau gofalwyr
  • magu hyder
  • maethiad
  • ymdrin â straen
  • hawliau gofalwyr yn y gweithle.

Bydd cyrsiau gwahanol o bosib yn cael eu cynnig mewn ardaloedd rhai cynghorau lleol.

Sut i ddysgu mwy

I weld pa hyfforddiant rhad ac am ddim sydd ar gael i ofalwyr yn eich ardal chi, gofynnwch i'ch gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol, neu
cysylltwch â grŵp cymorth gofalwyr lleol neu ganolfan gofalwyr.

Cyrsiau ar-lein

Mae FutureLearn (Saesneg yn unig) yn cynnig cyrsiau ar-lein byr, cost isel, gan gynnwys cyrsiau am iechyd a seicoleg, y bydd llawer ohonynt efallai o ddiddordeb i ofalwyr.