Mae gofalu yn gallu cael effaith sylweddol ar eich iechyd eich hun – a hynny’n gorfforol ac yn emosiynol (a hyd yn oed yn ariannol).
Efallai y teimlwch nad oes gennych chi unrhyw ddewis ond i roi anghenion eich anwylyn yn gyntaf. Os ydych chi hefyd yn ceisio cydbwyso gwaith ac ymrwymiadau teuluol, efallai ei bod yn teimlo’n amhosib dod o hyd i’r amser i fwyta’n iach, ymarfer, cymdeithasu neu hyd yn oed mynychu’ch apwyntiadau meddygol eich hun.
Os ydych chi’n methu gadael y person arall ar eu pen eu hun, gallwch chi deimlo’n ynysig yn y pen draw ac wedi’ch torri i ffwrdd o’r byd, sy’n debygol o gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl eich hun.
Er ei bod efallai’n swnio’n dwp, weithiau mae angen dysgu i ofalwyr gymryd gofal drostynt eu hunain.
Looking After Me
Bydd y cwrs chwe wythnos hon (un sesiwn yr wythnos sy’n para rhyw ddwy awr a hanner) yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o edrych ar ôl eich iechyd a’ch llesiant eich hun wrth ofalu am rywun arall. Byddwch chi’n dysgu sut i reoli’ch sefyllfa ofalu yn well a theimlo’n fwy hyderus ac ymarfer mwy o reolaeth dros eich bywyd.
Mae’r cwrs cymunedol yn cael ei arwain gan ddau wirfoddolwr sydd wedi cael profiad o ofalu ac mae ar agor i unrhyw ofalwr sy’n oedolyn.
Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:
Yn ogystal â’r hyfforddiant ffurfiol, byddwch chi’n cwrdd â gofalwyr eraill.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â chydlynydd EPP Cymru lleol.
Dysgu i Fyw
Mae Gofalwyr Cymru yn cynnig cwrs ar-lein rhad ac am ddim – Dysgu i Fyw (Saesneg yn unig) – i ofalwyr.
Mae'r rhaglen yn helpu gofalwyr i nodi a chyfleu'r sgiliau nad ydynt yn aml yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol y maent wedi'u hennill o'u profiad o ofalu.
Hunan-eiriolaeth i ofalwyr
Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd codi eu llais drostynt eu hun – ac nid yw gofalwyr yn wahanol yn hynny o beth. Efallai ei bod yn anodd i chi herio barn neu gyngor gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, hyd yn oed os ydych chi’n adnabod y person ag anghenion gofal a chymorth yn llawer gwell na nhw.
Mae Gofalwyr Cymru wedi cynhyrchu canllawiau hunan-eiriolaeth (Saesneg yn unig) sy’n trafod pynciau fel:
- cyfathrebu effeithiol
- delio â straen ac euogrwydd
- bod yn fwy pendant
Hefyd mae arweiniadau ategol byr a allai fod yn ddefnyddiol i ofalwyr:
- cwynion
- ymwybyddiaeth ofalgar
- myfyrio ar ddigwyddiadau