skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Os nad ydych chi erioed wedi gweithio mewn amgylchedd gofal cymdeithasol neu iechyd, mae’n gallu bod yn frawychus cael eich wynebu’n sydyn gan lond tŷ o offer meddygol, taclau codi, larymau a synwyryddion.

Os ydych chi’n newydd i ofalu neu mae’r person rydych chi’n edrych ar eu hôl yn fregus neu’n sâl efallai eich bod yn ofni brifo’r person arall neu wneud camgymeriad neu fethu â chymryd rhagofalon priodol.

Pan fyddwch chi’n gofalu am rywun sy’n drwm neu’n methu symud yn rhwydd, mae’n fwy tebygol eich bod chi mewn risg - o wneud niwed hirdymor i’ch cefn.

Bydd hyfforddiant ymarferol yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi gyflawni tasgau gofalu bob dydd.

Cofiwch nad yw hyfforddiant bob amser yn ffurfiol – yn aml bydd yn golygu gweithiwr gofal cymdeithasol neu iechyd yn dod i’ch cartref ac yn dangos i chi beth i’w wneud.

Offer/triniaeth feddygol

Os oes angen offer meddygol gartref ar y person rydych chi’n edrych ar eu hôl, bydd y nyrs gymunedol (ardal) yn dangos i chi sut i’w ddefnyddio.

Bydd yn dangos i chi sut i gyflawni triniaeth feddygol syml fel newid gorchudd clwyf neu fwydo rhywun drwy diwb. Holwch os nad ydych chi’n deall rhywbeth.

Symud a chario gartref

Bydd y nyrs gymunedol hefyd yn gallu dweud wrthych chi sut i symud a chario’r person arall, gan ddefnyddio offer arbenigol fel lliain llithro, byrddau trosglwyddo neu daclau codi.

Os nad yw’r person arall yn derbyn unrhyw driniaeth feddygol, gofynnwch i’ch cyngor lleol a ydyn nhw’n fodlon rhoi hyfforddiant symud a chario i chi.

Peidiwch byth ag ymdrechu i symud rhywun ar eich pen eich hun gan eich bod yn debygol o’i brifo nhw – neu eich hun – yn y pen draw. Gofynnwch i’ch cyngor lleol ail-asesu anghenion gofal a chymorth y person arall – a’ch anghenion cymorth chi fel eu gofalwr.

Cymorth cyntaf

Mae Urdd Sant Ioan Cymru (Saesneg yn unig) yn cynnal cyrsiau hanner diwrnod cymorth cyntaf sylfaenol, a chymorth cyntaf i blant a babanod ar gyfer y cyhoedd yn ei chanolfannau hyfforddiant.

Mae’r Groes Goch (Saesneg yn unig) wedi cynhyrchu fideos ar-lein sy’n dangos i chi beth i’w wneud mewn sefyllfaoedd penodol, er enghraifft, pan fydd rhywun yn tagu neu’n cael trawiad neu bwl o asthma. Mae’r cyngor ar gael hefyd ar app yn rhad ac am ddim.

Diweddariad diwethaf: 09/02/2023