skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Pan fyddwch chi wedi bod yn edrych ar ôl rhywun ag anghenion cymorth, mae’n gallu bod yn anodd gwybod yn union yr amser priodol i ofyn am gymorth o’r tu allan.

Mae amgylchiadau gallu newid. Efallai bod anghenion cymorth y person arall yn anghenion lefel isel ar un adeg sydd wedi cynyddu’n raddol.

Mae gan unrhyw un hawl i asesiad o’i anghenion pan mae’n ymddangos bod angen am ofal a chymorth – hyd yn oed pan fyddwch chi’n diwallu’r anghenion hynny ar hyn o bryd fel gofalwr y person.

Os nad yw’ch iechyd chi yn dda - neu mae gennych chi ymrwymiadau eraill - efallai ei bod hi’n bryd gofyn i’r cyngor lleol ddarparu mwy o gymorth i’r person arall. 

Trefnu asesiad o anghenion

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i drefnu asesiad o anghenion y person rydych chi’n gofalu amdano/amdani.

Bydd y gweithiwr cymdeithasol – neu weithiwr proffesiynol arall – sy’n cynnal yr asesiad hwn yn darganfod beth sy’n bwysig i’r person arall a beth hoffen nhw ei gyflawni (eu canlyniadau personol).

Yna bydd y cyngor lleol yn ystyried sut y gall gynorthwyo’r person i gyflawni’r canlyniadau hyn. Weithiau bydd hyn yn syml drwy ddarparu gwybodaeth neu eu cyfeirio at wasanaethau ataliol.

Er enghraifft:

Bydd y gweithiwr cymdeithasol (neu ymarferwr arall) yn ystyried rôl y teulu, ffrindiau a gofalwyr ar yr adeg hon, felly mae’n bwysig pwysleisio beth rydych chi’n fodlon – ac yn anfodlon – ei wneud.

Cofiwch, fel gofalwr mae gennych chi’r un hawl i gymorth â’r person rydych chi’n edrych ar ei ôl.

Diweddariad diwethaf: 09/02/2023