Mae perthnasoedd positif, iach yn hanfodol i’n lles emosiynol a chorfforol ni.
O eiliad ein geni, mae bodau dynol yn ffurfio perthnasoedd ag eraill: mae baban yn creu cysylltiad â’i rieni, mae plentyn cyn-ysgol yn ymddiried yn yr athro neu athrawes meithrin ac mae disgybl oedran cynradd yn gwneud ffrindiau yn yr iard chwarae.
Bob dydd, mae plant a phobl ifanc yn cymysgu ag eraill y mae’n rhaid ffurfio perthnasoedd â nhw – rhieni, brodyr a chwiorydd, disgyblion eraill, ffrindiau yn yr un tîm, cariadon, ac ati.
Mae yna ryngweithio â’r oedolion eraill sydd yn eu bywyd hefyd, e.e. athrawon, swyddogion crefyddol, hyfforddwyr chwaraeon ac yn y pen draw cydweithwyr a chyflogwyr.
Bydd y mwyafrif o’r perthnasoedd hyn yn bositif, gan gyfoethogi eu bywydau a’u helpu nhw i ddysgu a datblygu fel unigolion. Mae rhai eraill nad ydyn nhw’n ddelfrydol, ond sy’n ddiflanedig heb wneud unrhyw niwed go iawn, e.e. rhamant gyntaf.
Arwyddion perthynas bositif
Mae’r angen i chwilio am gysylltiadau cymdeithasol a’u cynnal, ac i ffurfio perthnasoedd, yn angen sylfaenol mewn pob bod dynol. Mae rhai plant a phobl ifanc yn gymdeithasgar ac yn allblyg, tra bod eraill efallai’n dawelach ac yn mwynhau eu cwmni eu hunain. Beth bynnag eu personoliaeth, mae ganddyn nhw i gyd angen cyffredin i gael eu derbyn gan bobl eraill.
Mae pobl ifanc yn ffynnu pan fydd eu perthnasoedd yn gryf ac yn gefnogol. Dylai perthynas bositif ddod â mwy o hapusrwydd nag anhapusrwydd i fywyd person ifanc. Dylen nhw deimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain, nid yn euog, yn ddig, yn isel neu’n ofidus.
Mae gan bob perthynas bositif y nodweddion canlynol:
- caredigrwydd
- parch y naill tuag at y llall
- ymddiriedaeth
- gonestrwydd
- teimlo’n ddiogel rhag niwed
- teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi
- cefnogaeth
- empathi – gwrando a deall eich gilydd
Arwyddion perthynas negyddol
Bydd gan bob perthynas ei chyfnodau gwell a gwaeth; ond nid yw’n dda i lesiant hirdymor person ifanc iddyn nhw aros mewn perthynas sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n wael amdanyn nhw eu hunain.
Mewn perthynas iach, nid yw un person yn cam-drin, yn bygwth nac yn camddefnyddio’r llall. Mae ambell i anghytundeb yn normal; ond ni ddylai’r un person ifanc aros mewn perthynas lle mae:
- ymddygiad bwlio neu reoli
- trais corfforol neu fygythiadau trais
- gorfodi i mewn i weithgarwch rhywiol neu unrhyw beth arall nad ydyn nhw eisiau ei wneud, e.e. secstio
Mae straen a thystiolaeth o hunan-niwed yn gallu bod yn arwyddion bod person ifanc yn cael anawsterau gyda sefyllfa neu berthynas.
Gall pobl ifanc anabl fod yn agored i niwed drwy droseddau cyfeillio.
Nid oes gan gamdriniaeth unrhyw le mewn perthynas, boed yn berthynas bersonol neu broffesiynol. Os amheuwch fod plentyn neu berson ifanc yn cael ei gam-drin, adroddwch eich pryderon ar unwaith. Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os yw’ch pryderon yn ymwneud â phlentyn oedran ysgol, gofynnwch am gael siarad ag athro neu athrawes amddiffyn plant dynodedig yr ysgol.
Mwy o wybodaeth
Mae Relate (Saesneg yn unig) yn gallu darparu cwnsela i unrhyw berson ifanc sy’n cael problemau.
Mae Brook (Saesneg yn unig) yn cynnig cymorth a chyngor am berthnasoedd rhywiol i bobl dan 25 oed.
Mae Childline yn helpu plant sy’n cael eu bwlio neu eu cam-drin. Ffôn: 0800 1111.