Er bod y rhyngrwyd wedi ei gwneud yn haws i ddieithriaid fagu perthynas amhriodol â phlant nad ydynt erioed wedi cwrdd â nhw, mae llawer o ysglyfaethwyr rhywiol eisoes yn hysbys i’r bobl maent yn ceisio eu cam-drin.
Ymhell o fod yn rhyw ddieithryn brawychus neu’n rhywun maent yn cwrdd â nhw ar-lein mae’r person sy’n peri’r perygl pennaf i blentyn eisoes yn ei fywyd yn aml – ac yn rhywun mae’n ymddiried ynddo.
Gall y bobl hyn fod yn ddynion neu’n fenywod o unrhyw oedran. Nid yw’r ffaith syml bod rhywun mewn safle o ymddiriedaeth neu’n gweithio gyda phlant yn golygu nad yw’n gallu bod yn risg. Mewn gwirionedd, mae rhai pobl sydd â diddordeb rhywiol mewn plant yn dewis gyrfaoedd, swyddi neu sefyllfaoedd gwirfoddol sy’n dod â nhw i gysylltiad rheolaidd â phobl ifanc.
Beth yw magu perthynas amhriodol?
Mae magu perthynas amhriodol at bwrpas rhyw yn weithred fwriadol gyda’r nod o gyfeillio a sefydlu cysylltiad emosiynol â phlentyn. Mae’r cyflawnwr yn dymuno gostwng ataliadau’r plentyn er mwyn ei gam-drin yn rhywiol.
Gall unrhyw blant a phobl ifanc fod mewn perygl o gael eu paratoi’n amhriodol fel hyn; ond mae pobl ifanc anabl a phobl ifanc mewn gofal neu sy’n gadael gofal yn arbennig o agored i niwed.
Y prif wahaniaeth rhwng magu’r berthynas wyneb yn wyneb ac ar-lein yw bod y plentyn neu’r person ifanc yn gwybod pwy yw’r person arall o’r cychwyn (yn aml bydd y sawl sy’n magu perthynas amhriodol ar-lein yn defnyddio proffiliau ffug).
Mae’r drosedd o feithrin perthynas amhriodol yn berthnasol i unrhyw un dros 18 oed sy’n meithrin perthynas amhriodol ag unrhyw un o dan 16 oed.
Patrymau magu perthynas amhriodol
Yn fras, mae’r dull o fagu perthynas amhriodol wyneb yn wyneb yr un peth ag ar-lein. Fel arfer mae’r cyflawnwr yn gynnil i ddechrau, gan ddangos diddordeb cynyddol yn y plentyn yn raddol.
Fel rhiant neu ofalwr, mae’n bwysig eich bod yn deall sut mae’r ymddygiad hwn yn digwydd er mwyn i chi amddiffyn eich plant. Mae tactegau cyffredin yn cynnwys:
- Rhoi sylw arbennig i blentyn unigol, efallai drwy weniaith ormodol neu roddion.
- Rhoi prawf ar lefelau cysur y plentyn, e.e. gyda jôcs neu gemau rhywiol, mynd i mewn i’w ystafell wely neu’r ystafell ymolchi.
- Cyffwrdd yn ddiniwed, heb fod yn rhywiol, e.e. cofleidio, sy’n cynyddu’n raddol i bethau fel eistedd y plentyn ar eu harffed, ei gusanu a chyffwrdd ‘yn ddamweiniol’ yn erbyn rhannau preifat ei gorff.
- Annog y plentyn i gadw cyfrinachau, e.e. chwarae gemau cadw cyfrinach.
- Beio’r plentyn am rywbeth syml i ddarganfod a fydd yn dweud wrth rywun.
- Siarad â’r plentyn am ryw neu rannu delweddau neu negeseuon rhywiol ag ef.
- Bygwth y plentyn am beth fydd yn digwydd iddo neu i rywun arall petai’n dweud wrth rywun am y gamdriniaeth.
- Dweud wrth y plentyn na fydd neb yn ei gredu.
Drwy gydol y broses o fagu perthynas amhriodol, bydd y cyflawnwr yn profi adwaith y plentyn i ddarganfod a all barhau i wneud beth mae’n dymuno yn gyfrinachol heb gael ei ddal.
Cadw’ch plentyn yn ddiogel
Mae llawer o gamau y gallwch eu cymryd i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn aros yn ddiogel.
- Arhoswch yn wyliadwrus – byddwch yn ymwybodol bod ysglyfaethwyr rhywiol yn bodoli ym mhob rhan o gymdeithas.
- Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os yw’n poeni am unrhyw beth.
- Esboniwch ba fath o ymddygiad a chyffwrdd sy’n dderbyniol – a beth sy’n annerbyniol.
- Anogwch eich plentyn i beidio â chadw cyfrinachau ac i ddweud wrthych chi os bydd oedolyn yn ymddwyn mewn ffordd sy’n ei boeni neu’n ei frawychu.
- Pennwch ffiniau teuluol a’u parchu, e.e. hawl eich plentyn i breifatrwydd yn yr ystafell ymolchi neu ei ystafell wely, a gwnewch yn siŵr bod ymwelwyr yn gwybod amdanynt.
- Cymerwch ragofalon synhwyrol wrth adael eich plentyn gydag oedolyn arall.
- Os nad yw’ch plentyn yn hoffi oedolyn penodol, siaradwch ag ef am ei resymau am hyn.
Sut i roi gwybod am eich pryderon
Os ydych chi’n poeni bod eich plentyn efallai’n cael ei baratoi’n amhriodol neu wedi dioddef camdriniaeth rywiol, dylech chi geisio cymorth.
Mwy o wybodaeth
Mae Keeping children safe: Your right to ask wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref (Saesneg yn unig).
Ymhlith yr elusennau plant cenedlaethol sy’n cynnig cyngor am sefyllfa magu perthynas amhriodol â phlant a phobl ifanc mae: Parents Protect, Childline, NSPCC a ThinkUKnow.