Mae priodas yn cael ei orfodi pan fydd un partner (neu’r ddau) wedi cael eu pwyso i mewn i’r briodas drwy fygythiadau, pwysau neu drais corfforol.
Nid oes rhaid i’r bygythiadau fod yn gorfforol o reidrwydd. Gallant fod yn ariannol, er enghraifft bygwth torri cysylltiadau â’r teulu, neu hyd yn oed emosiynol, er enghraifft efallai bod y person ifanc yn cael eu cyhuddo o ddod â chywilydd ar y teulu os na fyddan nhw’n mynd ymlaen â’r briodas.
Mae gwthio rhywun sy’n methu’n lân â chydsynio i mewn i briodas yn cael ei ystyried yn briodas dan orfod hefyd, e.e. rhywun ag anableddau dysgu difrifol.
Priodasau dan orfod a’r gyfraith
Yn y Deyrnas Unedig, mae’n drosedd gorfodi un person i briodi person arall a gall bod ynbarti i briodas dan orfod arwain at ddedfryd o garchar am saith mlynedd.
Gwneud cais am Orchymyn Amddiffyn Priodas Dan Orfod
Os ydych chi’n pryderu y gallech chi gael eich gorfodi i mewn i briodas, gallwch chi gael Gorchymyn Amddiffyn Priodas dan Orfod (Saesneg yn unig) trwy’r llysoedd sifil. Os nad oes gennych chi lawer o amser, gallwch chi wneud cais am Orchymyn Argyfwng. Gall torri’r naill orchymyn neu’r llall arwain at bum mlynedd yn y carchar.
Mewn argyfwng ffoniwch yr Uned Priodasau dan Orfod ar 020 7008 0151 neu’r heddlu ar 999.