skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cafodd Atwrneiaeth Barhaus (EPA) ei defnyddio cyn i’r Atwrneiaeth Arhosol (LPA) gael ei chreu. Er nad yw’n bosibl creu unrhyw EPAs newydd, mae unrhyw rai a gafodd eu sefydlu cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys hyd yn oed os na chawsant eu cofrestru.

Os oes gennych chi EPA sydd eisoes yn bodoli ond heb ei chofrestru, nid oes modd ei chofrestru ond os yw’r sawl sydd wedi ei enwebu fel eich twrnai yn credu eich bod yn dod – neu eisoes – yn meth ag ymdrin â’ch materion eich hun.

Mae ffurflenni i gofrestru EPA ar gael ar www.gov.uk (Saesneg yn unig).

Cewch chi ddefnyddio EPA heb ei chofrestru os oes gennych chi alluedd meddyliol, ond mae’n rhaid i’ch twrnai a gafodd ei enwi ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Saesneg yn unig). Mae'n costio £82 i gofrestru EPA (Medi 2022) ond efallai y byddwch yn gymwys i gael eich eithrio neu ffi llai.

Cewch chi ganslo EPA (Saesneg yn unig) os oes gennych chi alluedd meddyliol. Os nad yw’r EPA wedi ei chofrestru, mae ond angen eu difa. Os dymunwch gael Atwrneiaeth Arhosol (LPA) yn ei lle, mae’n rhaid i chi ei chofrestru. Y ffi yw £371 (Medi 2022).

Os ydych chi’n ansicr a oes gan rywun EPA neu beidio, gallwch chi chwilio’r gofrestr (Saesneg yn unig) yn rhad ac am ddim (mae’n rhaid llenwi ffurflen gais yn gyntaf).

Cofiwch na all eich EPA gael ei defnyddio ond i edrych ar ôl materion mewn perthynas ag arian ac eiddo. Os dymunwch i rywun edrych ar ôl eich lles personol rhag ofn nad oes gennych chi’r galluedd meddyliol un diwrnod i wneud eich penderfyniadau eich hun, mae angen i chi sefydlu Atwrneiaeth Arhosol Lles Personol.

Diweddariad diwethaf: 13/04/2023