skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Un o egwyddorion sylfaenol Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yw y dylai fod gan bob unigolyn dros 16 oed yr hawl i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywyd ac y dylid rhagdybio bod ganddyn nhw’r galluedd i wneud hynny.

Os na all rhywun wneud y penderfyniadau hyn, hyd yn oed gyda chefnogaeth ac anogaeth, dywedir nad oes ganddyn nhw’r galluedd meddyliol.

Gall hyn fod yn wir am bob math o resymau; ond yn aml bydd yn ganlyniad dementia, anaf pen difrifol neu anableddau dysgu difrifol.

Dod yn ddirprwy rhywun

Os ydych chi’n cefnogi rhywun sydd heb y galluedd meddyliol ac sy’n methu gwneud eu penderfyniadau eu hunain, gallwch chi wneud cais i’r Llys Gwarchod (Saesneg yn unig) i fod eu ‘dirprwy’.

Cyn i chi wneud cais, mae’n syniad da gwirio (Saesneg yn unig) a oes ganddyn nhw Atwrneiaeth Arhosol (LPA) neu Atwrneiaeth Barhaus (EPA) ar waith yn barod. Os oes, fel arfer ni fydd angen dirprwy arnyn nhw yn ogystal.

Fel dirprwy, chi sy’n gyfrifol am helpu’r unigolyn i wneud penderfyniadau neu am wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Mae dau fath o ddirprwy: lles personol ac eiddo a materion (ariannol).

Mae dirprwy eiddo a materion ariannol yn gyfrifol am reoli arian ac eiddo rhywun, e.e. talu biliau, gwerthu tŷ.

(Sylwch: os ydych chi’n edrych ar ôl budd-daliadau rhywun yn unig, nid oes angen i chi fod yn ddirprwy ond dylech chi wneud cais i ddod yn benodai (Saesneg yn unig).)

Mae dirprwy lles personol yn gwneud penderfyniadau am driniaeth feddygol a gwasanaethau gofal personol rhywun.

Gallwch wneud cais i fod y naill fath o ddirprwy neu’r llall. Os cewch eich penodi, bydd y Llys Gwarchod yn cyhoeddi gorchymyn llys sy’n amlinellu yr hyn y cewch ac na chewch ei wneud (Saesneg yn unig).

Mae’r Llys Gwarchod (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth fanwl am ddod yn ddirprwy, gan gynnwys pa lefel o oruchwyliaeth i wneud cais amdani, ffioedd sy’n daladwy a’r ffurflenni (Saesneg yn unig) angenrheidiol er mwyn gwneud cais.

Pan nad oes neb yn gallu cefnogi’r person sydd heb alluoedd meddyliol

Mewn sefyllfaoedd pan nad oes galluedd meddyliol gan rywun ac nad oes ganddynt neb i’w cefnogi a’u cynrychioli, mae’n bosib y caiff Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol ei benodi.

Os bydd rhywun yn derbyn triniaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl, caiff Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol ei benodi.

Deddf Galluedd Meddyliol

Mae gan Gymdeithas Alzheimer’s wybodaeth am y Ddeddf Galluedd Meddyliol ar ei gwefan (Saesneg yn unig).

Mae Mencap wedi cynhyrchu pecyn adnoddau am y Ddeddf Galluedd Meddyliol (Saesneg yn unig) ar gyfer teulu a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu.

Mae Hafal wedi cynhyrchu arweiniad byr (Saesneg yn unig) i'r Ddeddf ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl a’u teuluoedd.

Diweddariad diwethaf: 06/04/2023