Yn aml gall elusennau ddarparu rhwyd ddiogelwch pan nad yw’r wladwriaeth yn gallu’ch helpu, er bod llawer ohonyn nhw yn gallu cynorthwyo unigolion penodol yn unig a hynny o dan amgylchiadau penodol.
Mae’n bosibl y gallwch gael grant oddi wrth elusen neu gorff llesiannol yn arbennig os ydych chi’n chwilio am gymorth un-tro. Bydd y mwyafrif ond yn rhoi grantiau am bethau na allwch chi eu cael drwy grantiau neu fudd-daliadau’r wladwriaeth.
Mae Turn2us (Saesneg yn unig) yn elusen genedlaethol sy’n helpu pobl sydd mewn caledi ariannol i gael mynediad i fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth.
Mae’n werth holi’ch cyngor gwirfoddol lleol hefyd a oes unrhyw elusennau a allai helpu gyda’ch anghenion neu’ch sefyllfa benodol chi.
Yn ogystal â chymorth ariannol, mae yna elusennau a fydd yn helpu gyda’ch anghenion uniongyrchol, gan roi dillad, dodrefn a bwyd i chi.
Dillad ac eitemau personol
Erbyn hyn mae llawer o siopau elusen yn gwerthu eitemau dillad ac esgidiau sydd wedi cael eu defnyddio am gyn lleied â £1 yr un.
Cadwch lygad allan am ffeiriau sborion, gwerthiannau moes a phryn a ffeiriau cist ceir – nid ydych chi byth yn gwybod, efallai y dewch chi ar draws yn union beth rydych chi’n chwilio amdano am geiniogau.
Dodrefn a nwyddau tŷ
Bydd rhai elusennau’n rhoi i unigolion penodol - benywod sy’n ffoi rhag trais domestig a phobl sydd wedi bod yn ddigartref - rai o’r eitemau sylfaenol mae eu hangen i sefydlu cartref. Efallai y bydd mân gost. Fel arfer bydd rhaid i chi gael eich atgyfeirio i’r elusen gan weithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol.
Mae gan Freecycle (Saesneg yn unig) fwy na 30 o grwpiau lleol ledled Cymru. Mae cofrestru’n rhad ac am ddim ac efallai y gwelwch fod rhywun yn rhoi i ffwrdd yr union eitem rydych chi ei hangen.
Mae gan rai elusennau siopau dodrefn ac offer trydanol pwrpasol sy’n gwerthu eitemau ansawdd dda am brisiau isel iawn.
Mae bob amser yn werth edrych ar farchnad Facebook gan fod eitemau rhad ac am ddim yn aml yn cael eu hysbysebu.
Llochesi nos
Mae gan bob cyngor wasanaeth ffôn 24-awr ar gyfer pobl sydd mewn sefyllfaoedd argyfwng, e.e. os ydych chi’n eich cael eich hun yn ddigartref yn sydyn o ganlyniad i dân, llifogydd neu drais domestig.
Mae llochesi nod mewn trefi mwy o faint a dinasoedd.
Bwyd a banciau bwyd
Bydd banciau bwyd yn darparu cyflenwadau bwyd brys am dri diwrnod i bobl mewn argyfwng ond ni allwch ond galw heibio a gofyn am gyflenwadau. Mae angen cael eich atgyfeirio gan weithiwr proffesiynol rheng flaen, e.e. gweithiwr cymdeithasol, ymwelydd iechyd, meddyg teulu, swyddog yr heddlu neu feddyg.
Mae rhai elusennau ac eglwysi yn gweini prydau bwyd poeth yn rhad neu am ddim.
Arian ar gyfer gweithgareddau a grwpiau
Os nad ydych chi’n chwilio am gymorth i’ch hun ond yn hytrach ar gyfer grŵp neu brosiect rydych chi’n ymwneud ag ef, ewch i Fy Nghymuned Saesneg yn unig) neu Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Hefyd bydd eich cyngor gwirfoddol lleol yn gallu cynnig arweiniad a chymorth i chi.