Mae cost talu am gymorth a chefnogaeth yn gallu peri pryder i lawer o bobl. Er bod hyn yn ddealladwy, mae’n bwysig chwilio am gymorth pan fyddwch chi ei angen yn hytrach na gadael i bryderon am dalu am wasanaethau gofal eich gadael chi heb gefnogaeth ac mewn perygl.
Aros gartref
Mae prawf modd ar gyfer gofal cartref (personol); ond mae terfyn ar faint byddwch chi’n ei dalu am wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru sef £100 yr wythnos (Ebrill 2022), ni waeth faint o oriau o gefnogaeth a gewch chi.
Bydd gennych chi ddigon o arian ar ôl i fyw arno ar bob adeg.
Efallai bod yn well gennych drefnu’ch gwasanaethau gofal eich hun, ac os felly efallai y byddai’n well gennych ddefnyddio taliadau uniongyrchol.
Os oes arnoch chi angen addasiadau i’ch cartref er mwyn i chi wneud tasgau bob dydd fel ymolchi neu goginio, mae’n bosibl bod gennych hawl i dderbyn cymorth ariannol.
Gofalwyr
Os ydy rhywun yn eich cefnogi chi i fyw gartref, mae’n bosibl y bydd ganddyn nhw hawl i gymorth ariannol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.
Mynd i mewn o ofal preswyl
Gall gofal preswyl fod yn ddrud iawn, ond mae’n bosibl y bydd cymorth ariannol ar gael i dalu am gost eich gofal.
Mae’r rheolau ynglŷn â chodi tâl yn wahanol os ydych chi’n mynd i mewn i gartref preswyl dros dro yn unig.
Mae’r MoneyHelper yn cynnig cyngor annibynnol ar bob mater ariannol, gan gynnwys talu am ofal.