Mae gwasanaethau dydd – sydd weithiau’n cael eu galw’n ‘weithgareddau dydd’ – yn cynnig cyfle i bobl ag anghenion gofal a chymorth gymdeithasu, meithrin cyfeillgarwch a chymryd rhan mewn amrediad o weithgareddau.
Mae gwasanaethau dydd yn annog pobl i fynd allan yn eu cymuned gartref a chymysgu ag eraill, gan helpu i leihau arwahanrwydd ac unigedd. Fel arfer bydd y teithio i’r ganolfan ddydd ac oddi yno yn cael ei drefnu fel rhan o’r gwasanaeth.
Mae rhai gwasanaethau dydd hefyd yn darparu gwasanaethau gofal ac iechyd personol, er enghraifft, baddo a thorri ewinedd.
I bwy mae gwasanaethau dydd?
Gall gwasanaethau dydd gael eu darparu ar eu pen eu hun neu fel rhan o becyn cyffredinol o ofal i bobl ag anghenion gofal a chymorth.
Gallai hyn gynnwys:
- pobl hŷn, gan gynnwys y sawl â dementia
- pobl ag anableddau dysgu
- pobl ag anableddau corfforol a synhwyraidd
- pobl ag anghenion iechyd meddwl.
Mathau o wasanaethau dydd
Bydd y math o wasanaethau dydd rydych chi’n eu derbyn yn amrywio yn ôl eich cynllun gofal a chymorth a’r hyn sydd ar gael yn ardal eich awdurdod lleol.
Gallai hyn gynnwys:
Mae’n bosib y bydd y sawl ag anghenion lefel uchel yn gallu derbyn cymorth ar sail unigol.
Trefnu gwasanaethau dydd neu weithgareddau dydd
Os nad ydych chi’n derbyn cymorth oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd, y cam cyntaf yw cysylltu â’ch cyngor lleol a gofyn am asesiad o’ch anghenion gofal a chymorth.
Yn ystod yr asesiad, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrth y gweithiwr cymdeithasol beth rydych chi’n dymuno ei wneud, er enghraifft, dysgu coginio, mynd allan a chwrdd â ffrindiau newydd neu fynd i glwb cinio.
Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun yn ogystal â chynnig newid golygfa a chyfleoedd cymdeithasol i bobl ag anghenion cymorth, mae gwasanaethau dydd hefyd yn gallu cynnig llinell fywyd i ofalwyr sydd angen seibiant o’u rôl ofalu.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol a gofynwch am asesiad gofalwr.
Talu am wasanaethau dydd
Mae tâl yn cael ei godi am wasanaethau dydd. Gofynnir i chi asesiad ariannol i bennu faint dylech chi ei dalu.