Mae plant i gyd ar eu helw o gael eu magu mewn cartref sefydlog, diogel a serchus; fodd bynnag, mae llu o resymau pam na all rhai plant fyw gyda’u rhieni genedigol.
Bydd rhai yn byw gyda gofalwyr maeth, sy’n gadael y posibilrwydd ar agor iddynt fynd yn ôl i’w teuluoedd naturiol un diwrnod. Ond o dan rai amgylchiadau, nid oes unrhyw siawns y bydd hynny’n digwydd ac mae’r plentyn yn cael ei gynnig i’w fabwysiadu.
Mae mabwysiadu yn wahanol iawn i faethu am y bydd y plentyn sy’n cael ei fabwysiadu yn byw gyda chi’n barhaol. Caiff holl gyfrifoldebau a dyletswyddau rhiant y rhieni genedigol eu trosglwyddo i chi drwy orchymyn llys.
Fel arfer mae’n rhaid i rieni genedigol y plentyn gytuno i’r mabwysiadu oni bai:
- nad yw’n bosibl dod o hyd iddynt
- nad ydynt yn gallu cydsynio, e.e. oherwydd anabledd meddyliol
- y byddai’r plentyn yn cael ei osod mewn perygl os na châi ei fabwysiadu
Mae natur barhaol mabwysiadu yn golygu na ddylai’r penderfyniad gael ei gymryd yn ddifater. Gallwch fabwysiadu plentyn hyd at 18 oed os nad yw, neu nad yw wedi bod, yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Pwy sy’n gallu mabwysiadu plentyn?
Nid oes unrhyw reolau diwyro ynghylch pwy sy’n gallu mabwysiadu plentyn, ac eithrio bod rhaid i chi fod dros 21 oed.
- Gallwch fod yn sengl neu’n bâr, mewn perthynas â rhywun o’r un rhyw, yn briod, wedi ysgaru neu’n cyd-fyw.
- Nid oes unrhyw derfyn oedran uchaf ar yr amod eich bod yn ddigon iach a heini (yn gorfforol ac yn feddyliol) i fodloni galwadau edrych ar ôl plentyn.
- Gallwch fod o unrhyw gefndir diwylliannol neu grefyddol.
- Efallai bod gennych blant eich hunan, plant sy’n oedolion neu dim plant.
- Gallwch fod yn gweithio’n rhan amser neu’n amser llawn, ar yr amod eich bod yn gallu gofalu am y plentyn ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, ac yn medru mynychu cyfarfodydd.
- Gallwch fod yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, a’r cartref yn fawr neu’n fach.
- Nid oes angen i chi fod yn ddinesydd Prydeinig ond mae’n rhaid bod gennych gyfeiriad parhaol yn y DU ac wedi byw yno am flwyddyn cyn i chi ddechrau’r broses o wneud cais.
Mabwysiadu plentyn eich cymar
Pan fydd plentyn wedi bod yn byw gydag un rhiant naturiol mewn llysdeulu am fwy na chwe mis – ac mae’r rhiant genedigol arall wedi marw neu nid oes ganddo unrhyw gysylltiad â nhw – efallai ei fod yn rhesymegol i’w lysriant ei fabwysiadu’n ffurfiol.
Mae mabwysiadu yn dirwyn i ben y berthynas gyfreithiol rhwng y plentyn a’i riant byw arall, gan gynnwys hawliau i gynhaliaeth ac etifeddu. Nawr mae’n rhaid i’r rhiant mabwysiadol newydd ysgwyddo cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn nes iddo ddod yn oedolyn, hyd yn oed os bydd eu perthynas eu hun â rhiant genedigol y plentyn yn dod i ben cyn hynny.
Mae’n rhaid i chi hysbysu’ch cyngor lleol yn ffurfiol am eich bwriad i fabwysiadu’ch llysblentyn o leiaf tri mis cyn i chi gyhoeddi’ch cais i’r llys. Bydd gweithiwr cymdeithasol yn asesu’ch amgylchiadau ac yn ysgrifennu adroddiad manwl ar gyfer y llys, a fydd yn penderfynu ai mabwysiadu yw’r peth gorau i’r plentyn. Os yw’r rhiant genedigol yn fyw ac yn meddu ar gyfrifoldeb rhiant - hyd yn oed os nad oes unrhyw gysylltiad ar y pryd - mae’n rhaid iddo gytuno i’r mabwysiadu.
Cychwyn y broses
Er nad yw mabwysiadu yn rhywbeth i’w wneud yn ddifater, mae cannoedd o blant ledled Cymru sy’n aros am deuluoedd i roi cartref iddynt. Fel arfer brodyr a chwiorydd sydd angen aros gyda’i gilydd sy’n aros y cyfnod hwyaf, a phlant anabl.
O dan rai amgylchiadau, bydd gofalwr maeth efallai’n gallu mabwysiadu plentyn mae wedi bod yn gofalu amdano dros dro.
Os ydych o ddifrif ynghylch y dymuniad i fabwysiadu, y peth cyntaf i’w wneud yw cysylltu ag asiantaeth fabwysiadu am wybodaeth a chyngor. Mae pob cyngor lleol yn gweithredu’n asiantaeth fabwysiadu ac mae yna asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol hefyd.
Cewch wneud ymholiadau i fwy nag un asiantaeth fabwysiadu; ond os penderfynwch fynd yn eich blaen, mae’n rhaid i chi benderfynu pa asiantaeth fabwysiadu i’w defnyddio a chadw at un.
Y peth gorau yw dechrau’r broses fabwysiadu pan fydd eich bywyd yn sefydlog heb unrhyw ddigwyddiadau bywyd mawr ar y gweill. Fel arfer mae’r broses fabwysiadu yn cymryd tua chwe mis a byddwch yn cael eich paru â phlentyn ar ôl i chi gael eich cymeradwyo.
Rhaid i bawb sy’n bwriadu mabwysiadu gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Yn gyffredinol disgwylir i o leiaf un o’r darpar rieni gymryd o leiaf chwe mis i ffwrdd o’r gwaith pan fydd y plentyn yn dod i fyw gyda chi’n gyntaf er mwyn ei helpu i ymgartrefu (bydd gennych hawl i dderbyn absenoldeb mabwysiadu am dâl (Saesneg yn unig) yn fwy na thebyg).
Mwy o wybodaeth
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn hyrwyddo ac yn cefnogi mabwysiadu ledled Cymru.
Mae Barnardo’s Cymru (Saesneg yn unig) a Chymdeithas Plant Dewi Sant (Saesneg yn unig) yn asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol a fydd yn cynghori, yn paratoi ac yn asesu rhieni mabwysiadol posibl.