Ychydig o dasgau sy’n fwy boddhaus na bod yn rhiant maeth – er, a dweud y gwir, mae maethu yn fwy o alwedigaeth na thasg.
Mae gofalwyr maeth yn cynnig cartrefi sefydlog, diogel a serchus i blant a phobl ifanc sy’n methu â byw gyda’u rhieni naturiol. Bydd rhai o’r plant hyn sy’n derbyn gofal yn dychwelyd adref yn y pen draw, tra bydd eraill yn aros gyda rhieni maeth nes iddynt ymadael â gofal.
Mae plant a phobl ifanc yn ‘mynd i mewn i ofal’ ac yn cael eu maethu am lawer o wahanol resymau, gan gynnwys chwalu neu argyfwng o fewn teulu, camdriniaeth, salwch rhiant ac esgeulustod.
Mae edrych ar ôl plentyn anabl yn gallu bod yn ymestynnol iawn i’r rhieni genedigol ac yn aml mae angen rhieni maeth i ddarparu seibiant byrdymor neu ofal hirdymor.
Mae maethu yn digwydd yng nghartref y gofalwr maeth ei hun a bydd yn darparu gofal fel rhan o dîm, sy’n cynnwys teulu’r gofalwr maeth ei hun, rhieni genedigol y plentyn a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Pwy sy’n gallu mynd yn ofalwr maeth?
Nid oes angen unrhyw sgiliau neu gymwysterau penodol arnoch i fod yn ofalwr maeth.
- Gallwch fod yn sengl neu’n bâr, mewn perthynas â rhywun o’r un rhyw, yn briod, wedi ysgaru neu’n cyd-fyw.
- Gallwch fod o unrhyw gefndir diwylliannol neu grefyddol.
- Efallai bod gennych blant eich hunan, plant sy’n oedolion neu dim plant.
- Gallwch fod yn eich 20iau neu’ch 60au, er bod angen i chi fod yn ddigon iach a heini (yn gorfforol ac yn feddyliol) i fodloni galwadau edrych ar ôl plentyn.
- Gallwch fod yn gweithio’n rhan amser neu’n amser llawn, ar yr amod eich bod yn gallu gofalu am y plentyn ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, ac yn medru mynychu cyfarfodydd.
- Gallwch gadw anifeiliaid anwes, hyd yn oed – byddant yn cael eu hasesu am eu hanianawd a’u hymddygiad.
- Gallwch fod yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, a’r cartref yn fawr neu’n fach; fodd bynnag, mae’n rhaid bod gan y plentyn neu berson ifanc ei ystafell wely ei hun (ac eithrio babanod).
Yr hyn sy’n gyffredin ymhlith gofalwyr maeth yw’r awydd i agor eu cartref a’u calon i blentyn neu berson ifanc, bod yn hyblyg i’w anghenion a chynnig safon dda o ofal.
Yn gyfnewid, cewch daliad maethu sy’n cynnwys lwfans maethu a ffi lleoliad, hyfforddiant parhaus a chefnogaeth gyson gan eich gwasanaeth maethu.
Gwahanol fathau o leoliadau
- Maethu argyfwng – cymryd plentyn i mewn ar fyr rybudd (yn y nos yn aml) a gofalu amdano am ychydig o ddyddiau.
- Maethu byrdymor – lleoliadau byr yw’r rhain ond maent yn cael eu cynllunio ymlaen llaw, e.e. os bydd rhiant yn mynd i mewn i’r ysbyty.
- Maethu hirdymor – dyma pan na fydd plentyn yn mynd yn ôl i’w deulu naturiol ac mae angen cartref hirdymor arno. Mae’r lleoliadau hyn yn cael eu cynllunio ac mae’r gofalwyr maeth yn cael eu dewis yn ofalus i gymryd i ystyriaeth cefndir ac anghenion diwylliannol a chrefyddol y plentyn.
- Gofal seibiant (egwyliau byr) – mae gofal seibiant yn rhoi hoe i’r rhieni a’r plentyn o’u trefniadau arferol. Efallai bod y plentyn yn anabl neu efallai bod ganddo anghenion mwy cymhleth.
- Llety a gynorthwyir – math o faethu yw hwn i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed y mae arnynt angen cefnogaeth wrth ddysgu sut i ddod yn annibynnol (gadawyr gofal yn aml, ond nid bob tro).
Cychwyn y broses
Y cam cyntaf yw holi Maethu yng Nghymru (ar gyfer maethu awdurdodau lleol) neu asiantaeth faethu annibynnol. Yn dilyn trafodaeth gychwynnol – neu wahoddiad i ddiwrnod gwybodaeth agored – byddwch yn derbyn ymweliad cartref.
Os ydych am fynd yn eich blaen, bydd y broses asesu yn dechrau. Mae hyn yn cynnwys darganfod a ydych yn addas a pha fath o faethu sydd orau i chi. Tra bydd y broses asesu ar waith, cewch eich gwahodd i gwblhau cwrs sy’n rhoi i chi’r sgiliau i faethu.
Mae’r amserlen yn dibynnu ar y cyngor neu’r asiantaeth, ond gall fod hyd at wyth mis ar ôl eich ymholiad cyntaf. Mae hyn yn rhoi digon o amser i’r gwasanaeth maethu benderfynu a ydych yn addas – ac yn eich galluogi chi i wneud yr un peth.
Rhaid i bob darpar ofalwyr maeth a’u teuluoedd uniongyrchol gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).