Mae maethu preifat yn digwydd pan fydd plentyn o dan 16 oed (neu o dan 18 os yw’n anabl) yn derbyn gofal yng nghartref rhywun sydd heb fod yn berthynas agos nac yn warcheidwad am fwy nag 28 diwrnod.
Yn aml bydd trefniadau maethu preifat yn digwydd fel ymateb positif i amgylchiadau anodd teulu; ond mae’n rhaid i lesiant y plentyn ddod yn gyntaf bob tro.
Ydy’r plentyn yn cael ei faethu’n breifat?
Os bydd plentyn yn byw gyda pherthynas fel y’u diffinnir o dan Ddeddf Plant 1989, h.y. nain neu daid, brawd, chwaer, modryb neu ewythr (p’un a ydynt yn hanner gwaed neu’n waed llawn neu’n berthynas drwy briodas), neu lys-riant, yna NID yw’n cael ei faethu’n breifat.
Os bydd plentyn yn byw gyda ffrind i’r teulu, rhieni cariad, rhieni ei ffrind gorau neu gymydog, MAE'N CAEL EI faethu’n breifat. O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd rhywun nad oedd teulu’r plentyn yn ei adnabod cyn hyn yn fodlon maethu plentyn yn breifat.
NID trefniant maethu preifat ydyw os edrychwch ar ôl plentyn rhywun arall am gyfnod byr, e.e. pan fyddant yn sâl, yn mynd i mewn i’r ysbyty neu ar wyliau.
Pryd fydd maethu preifat yn digwydd?
Yn aml mae maethu preifat yn dechrau heb fawr o gynllunio neu bydd yr hyn a ddechreuodd fel trefniant byrdymor yn parhau am gyfnod hwy.
Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:
- Mae plant eisiau aros yn yr un ysgol pan fydd eu rhieni yn symud felly yn symud i mewn gyda ffrindiau.
- Efallai y bydd person ifanc yn tynnu ymlaen yn well gyda rhieni cariad na’i rieni ei hun ac felly’n symud i mewn.
- Mae dadleuon yn y cartref yn arwain i berson ifanc ddymuno byw i ffwrdd o’i deulu.
- Mae rhieni wedi anfon plentyn i’r wlad hon am ei addysg neu am resymau iechyd.
Pwy sy’n trefnu maethu preifat?
Mae maethu preifat yn cael ei drefnu gan y darpar ofalwr maeth a rhieni genedigol y plentyn, neu weithiau gan blant hŷn eu hunain.
Nid yw awdurdodau lleol yn cymeradwyo nac yn cofrestru gofalwyr maeth preifat yn ffurfiol, ond mae’n rhaid iddynt fodloni eu hun y bydd llesiant plant sy’n cael eu maethu’n breifat, neu a fydd felly, o fewn eu hardal yn cael eu diogelu a’u hybu’n foddhaol.
Ydy gofalwyr maeth preifat yn cael eu talu?
Bydd unrhyw drefniant ariannol yn cael ei wneud rhwng gofalwyr maeth preifat a’r rhieni genedigol. Fel gofalwr y plentyn mae’n bosibl y gallech hawlio rhai budd-daliadau, e.e. budd-dal plant, ond bydd unrhyw daliadau cynhaliaeth a gewch oddi wrth rieni’r plentyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth os gwnewch gais am fudd-daliadau sydd â phrawf modd. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn cynnig cyngor am fudd-daliadau.
Dweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol
Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i bawb sy’n bwriadu ymgymryd â threfniant maethu preifat – neu sy’n maethu plentyn yn breifat yn barod – ddweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol.
Os yw’r maethu preifat yn cael ei gynllunio, dylech chi wneud hyn o leiaf chwe wythnos cyn i’r trefniant ddechrau. Os bydd y maethu preifat yn dechrau’n sydyn – efallai o ganlyniad i argyfwng – dwedwch wrthynt cyn gynted â phosibl.
Pam mae’n rhaid i mi ddweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol?
Mae’n bwysig bod y gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am drefniadau maethu preifat am sawl rheswm:
- Rhaid iddynt fod yn hapus bod y cartref maeth yn darparu amgylchedd diogel i'r plentyn a bod holl aelodau'r cartref yn addas i ofalu am y plentyn. Bydd gwiriadau uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu cynnal ar bob aelod yr aelwyd sydd dros 16 oed.
- Fe fydd gweithwyr cymdeithasol yn rhoi cymaint o gymorth a chyngor ag y mae ei angen ar y gofalwr maeth preifat.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol fod yn fodlon bod y trefniant er lles gorau’r plentyn. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid iddynt fod yn berffaith, ond byddant yn atal lleoliad os byddant yn credu nad yw er lles gorau’r plentyn. Byddai hyn yn cael ei drafod â chi a rhieni’r plentyn.