skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae radicaleiddio yn realiti brawychus yn y byd sydd ohoni. Yn anffodus, mae’n bosibl i blant a phobl ifanc hefyd gael eu tynnu i mewn i ideolegau a chredoau eithafol sy’n cael eu defnyddio i gyfiawnhau terfysgaeth.

Er mai pobl ifanc sydd yn y perygl mwyaf o gael eu targedu gan recriwtwyr, mae enghreifftiau o blant iau yn cael eu paratoi’n amhriodol felly mae’n bwysig peidio ag anwybyddu unrhyw bryderon.

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag niwed ac i’w lles gael ei hyrwyddo. Mater diogelu yw radicaleiddio plentyn neu berson ifanc a dylai unrhyw un sy’n amau radicaleiddio leisio ei bryderon ar unwaith.

Hyd yn oed pan nad oes gan y person ifanc unrhyw fwriad o weithredu ar ei safbwynt, mae ffurfio safbwyntiau eithafol ar sail celwydd a chamwybodaeth yn gallu bod yn niweidiol iawn i’w iechyd meddwl.

Beth yw radicaleiddio?

Mae radicaleiddio yn digwydd pan fydd rhywun yn dechrau mabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol, crefyddol neu gymdeithasol eithafol, a allai arwain ato’n gweithredu – neu’n bwriadu gweithredu - mewn modd a allai niweidio ei hunan neu bobl eraill.

Yn aml caiff y safbwyntiau hyn eu ffurfio drwy gamwybodaeth, camddealltwriaeth, cenfigen, dicter, ymdeimlad o anghyfiawnder, llid neu ofn.

Rydym yn meddwl am radicaleiddio’n aml yn nhermau eithafiaeth Islamaidd; ond gall pobl hawdd eu niweidio gael eu radicaleiddio i gynnal barn eithafol o fathau eraill yn ogystal, fel eithafiaeth y dde eithaf.

Dylai plant a phobl ifanc fod yn rhydd i ffurfio ac ymgorffori eu hunaniaeth a’u credoau eu hunain, ac nid yw cael barn wahanol i’w rhieni, eu teulu na’u ffrindiau yn golygu eu bod yn radical neu’n cael eu radicaleiddio.

Pwy sydd mewn perygl?

Nid oes unrhyw broffil nodweddiadol o berson ifanc sy’n debygol o gael ei radicaleiddio, a gall y broses o radicaleiddio fod yn wahanol iawn i bawb.

Efallai bod gan rai pobl ifanc hunan-barch isel neu maent yn ddioddefwyr bwlio. Efallai bod eraill wedi dioddef hiliaeth neu wahaniaethu’n uniongyrchol a bod yn ddig amdano, neu’n teimlo ymdeimlad o anghyfiawnder. Bydd rhai’n cael anhawster o ran eu hymdeimlad o bwy ydyn nhw, gan eu gwneud yn agored i ddylanwad eithafol.

Gall tyndra yn y teulu neu’r gymuned – efallai ynghylch diwylliant neu grefydd – gynyddu pa mor agored mae person ifanc i niwed a chynnig ffordd i mewn i recriwtwyr.

Weithiau, efallai y bydd gan berson ifanc ffrindiau neu aelodau’r teulu, e.e. brawd neu chwaer hŷn, sydd wedi ymuno â grŵp eithafol yn barod.

Beth yw arwyddion radicaleiddio?

Mae’n gallu bod yn anodd sylwi ar radicaleiddio, yn arbennig gan fod llawer o’i arwyddion yn adlewyrchu arwyddion arferol tyfu’n hŷn, e.e. treulio llawer o amser ar eu pen eu hun neu ar eu cyfrifiadur.

Mae’r NSPCC yn rhestru’r canlynol fel arwyddion rhybuddio posibl:

  • gwahanu eu hun oddi wrth eu teulu a ffrindiau
  • siarad fel petaent yn dilyn araith o sgript
  • amharodrwydd neu anallu i drafod eu barn
  • agwedd amharchus sydyn tuag at eraill
  • lefelau dicter uwch
  • bod yn fwy cyfrinachgar, yn arbennig ynghylch defnyddio’r cyfrifiadur.

Beth i’w wneud os bydd gennych bryderon?

Os ydych yn pryderu bod person ifanc yn cael ei radicaleiddio – hyd yn oed os nad ydych chi’n 100% sicr – y peth gorau bob tro yw siarad â rhywun sy’n gallu edrych i mewn i’r sefyllfa.

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor.

Mae gan yr NSPCC linell gymorth rad ac am ddim 24/7 os dymunwch drafod eich pryderon.

Os yw’ch pryderon yn ymwneud â phlentyn oedran ysgol, gofynnwch am gael siarad ag athro/athrawes amddiffyn plant dynodedig yr ysgol.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Gallwch hefyd roi gwybod am gynnwys sy'n gysylltiedig â therfysgaeth ar-lein i Uned Atgyfeirio Rhyngrwyd Gwrthderfysgaeth yr heddlu. 

Mae Families Against Stress and Trauma (FAST) yn cefnogi’r sawl y mae trawma colli anwyliaid i ideolegau a grwpiau eithafol wedi effeithio ar eu bywydau.

Diweddariad diwethaf: 21/12/2022